Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 21/09/2023 - Pwyllgor Craffu Gofal (eitem 8)

8 BRIFF DRAFFT GRWP TASG A GORFFEN CYNLLUN AWTISTIAETH pdf eicon PDF 260 KB

I ystyried mabwysiadu’r briff ac ethol aelodau i ymgymryd â gwaith y grŵp tasg a gorffen.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

a)     Mabwysiadu’r briff ac ychwanegu y bydd y grŵp yn edrych ar y Cynllun Awtistiaeth yn ei gyfanrwydd.

b)     Ethol y Cynghorydd Jina Gwyrfai i fod yn rhan o’r Grŵp Tasg a Gorffen Cynllun Awtistiaeth.

c)     Ymgysylltu gydag holl aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal drwy e-bost er mwyn derbyn dau enw arall i fod yn rhan o’r grŵp tasg a gorffen.

 

COFNODION:

Cyflwynwyd y briff drafft gan fod aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal wedi penderfynu yn eu cyfarfod ym mis Ebrill nad oeddynt wedi derbyn gwybodaeth ddigonol am Gynllun Awtistiaeth Gwynedd. Oherwydd hyn, roeddynt yn awyddus i fynd i fwy o fanylder am y gwasanaeth sy’n cael ei gynnig ac felly penderfynwyd sefydlu Grŵp Tasg a Gorffen.

                                                                                       

Penderfynwyd y byddai’r Grŵp Tasg a Gorffen yn cynnwys aelodau o’r Pwyllgor Craffu Gofal a’r Pwyllgor Craffu Addysg & Economi, yn ogystal â chynrychiolaeth o’r Adran Plant, Adran Oedolion, Adran Addysg a’r Bwrdd Iechyd. Gofynnwyd am dri chynrychiolydd o’r Pwyllgor Craffu Gofal i ymgymryd â gwaith y grŵp tasg a gorffen.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

-        Nodwyd bod y briff yn gyffredinol iawn ac er bod penderfyniad y pwyllgor mis Ebrill yn cyfeirio at drafodaeth o weithrediad y cynllun yn ei gyfanrwydd gyda’r tîm newydd, nad oedd cyfeiriad o hynny yn y briff.

o   Mewn ymateb, eglurwyd mai camgymeriad oedd hynny ac y dylai’r geiriad gyd-fynd gyda geiriad yr hyn a benderfynwyd yn y pwyllgor.

 

-        Cynigwyd bod y Grŵp Tasg a Gorffen yn edrych ar y Cynllun Awtistiaeth yn ei gyfanrwydd yn gyntaf ac efallai y byddai modd gweithredu neu edrych yn fanylach ar faterion penodol yn dilyn argymhellion y grŵp. Penderfynwyd y byddai hyn yn ffordd deg o roi cyfle i’r tîm newydd wneud gwahaniaeth a gweithredu eu rhaglen waith.

 

-        Nodwyd y byddai rhagor o gynrychiolaeth o’r adran oedolion yn fuddiol gan fod mwy nag un tîm yn delio gyda’r mater a dadleuwyd ei bod hi’n hanfodol bod y Cydlynydd Prosiect Gwasanaethau Awtistiaeth yn rhan o’r drafodaeth.

 

 

Eglurwyd na fyddai’r Grŵp Tasg a Gorffen yn un hir, oddeutu 2-3 gyfarfod ar y mwyaf. Rhoddodd y Cynghorydd Jina Gwyrfai ei henw ymlaen i fod yn aelod o’r Grŵp Tasg a Gorffen. Oherwydd nad oedd holl aelodau’r Pwyllgor yn bresennol yn y cyfarfod, penderfynwyd y byddai e-bost yn cael ei anfon i aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal i ofyn pwy arall sydd gan ddiddordeb i fod yn rhan o’r grŵp. Os na fyddai enwau’n dod i law, yna byddai’r gwahoddiad yn cael ei ymestyn i weddill aelodau’r Cyngor. Nodwyd y byddai’r gynrychiolaeth o’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi yn cael ei gadarnhau yng nghyfarfod y pwyllgor ar y 9fed o Dachwedd.

 

 

PENDERFYNWYD

 

a)     Mabwysiadu’r briff ac ychwanegu y bydd y grŵp yn edrych ar y Cynllun Awtistiaeth yn ei gyfanrwydd.

b)     Ethol y Cynghorydd Jina Gwyrfai i fod yn rhan o’r Grŵp Tasg a Gorffen Cynllun Awtistiaeth.

c)     Ymgysylltu gyda holl aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal drwy e-bost er mwyn derbyn dau enw arall i fod yn rhan o’r grŵp tasg a gorffen.