8 GRŴP TASG A GORFFEN CYNLLUN AWTISTIAETH GWYNEDD PDF 86 KB
Ethol dau
aelod i wasanaethu ar y Grwp Tasg a Gorffen Cynllun Awtistiaeth.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad yr Ymgynghorydd Craffu
yn gwahodd y pwyllgor i ethol dau aelod i gynrychioli’r Pwyllgor Craffu Addysg
ac Economi ar y Grŵp Tasg a Gorffen Cynllun Awtistiaeth.
Cyngiwyd enwau’r Cynghorwyr Dawn Jones a Gwynfor
Owen. Amlygwyd bod gan y ddau ohonynt
gysylltiad â’r maes awtistiaeth. Nododd
aelod ei fod wedi cael sgwrs gyda’r Swyddog Monitro ynghylch y sefyllfa. Ymhelaethodd y nodwyd yn ystod y sgwrs bod
modd cyflwyno cais am oddefeb i’r Pwyllgor Safonau.
Gan fod cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau ar
19 Chwefror, 2024, a bod bwriad i’r Grŵp Tasg adrodd yn ôl i’r Pwyllgor
Craffu Gofal ar 1 Chwefror, nodwyd y byddai’n rhaid gofyn i’r Pwyllgor Safonau
gynnal cyfarfod arbennig i drafod y ceisiadau am oddefebau.
Nodwyd hefyd y dylid ethol dau aelod wrth
gefn ar y Grŵp Tasg rhag i’r naill, neu’r ddau, gais am oddefeb gael eu gwrthod gan y Pwyllgor Safonau.
PENDERFYNWYD
1.
Bod y Cynghorwyr Dawn Jones
a Gwynfor Owen (sydd â chysylltiad â’r maes awtistiaeth) yn cyflwyno ceisiadau
am oddefebau er mwyn caniatáu iddynt gynrychioli’r Pwyllgor Craffu Addysg ac
Economi ar y Grŵp Tasg a Gorffen Cynllun Awtistiaeth.
2.
Gofyn i’r Pwyllgor Safonau
gynnal cyfarfod arbennig i ystyried ceisiadau am oddefebau gan y Cynghorwyr
Dawn Jones a Gwynfor Owen.
3.
Ethol y Cynghorwyr Cai Larsen
a Beth Lawton yn aelodau wrth gefn i gynrychioli’r Pwyllgor ar y Grŵp Tasg
a Gorffen.