Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 28/11/2023 - Y Cabinet (eitem 7)

7 ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD PARTNERIAETH RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU 2022/2023 pdf eicon PDF 150 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd y gwaith a’r cynnydd a wnaed yn 2022/2023 yn y meysydd gwaith sy’n cael eu dwyn ymlaen yn rhanbarthol trwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan   

 

PENDERFYNIAD

 

Nodwyd y gwaith a’r cynnydd a wnaed yn 2022/2023 yn y meysydd gwaith sy’n cael eu dwyn ymlaen yn rhanbarthol trwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.

 

TRAFODAETH

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod cyflwyno’r adroddiad blynyddol hwn yn ofyniad statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Ymhelaethwyd bod sefydlu a chynnal y Bwrdd yn ofyniad o fewn Adran 9 y ddeddf honno yn ogystal â’r angen i hyrwyddo cydweithrediad gyda phartneriaid y Bwrdd.

 

Eglurwyd bod y bwrdd yn cael ei redeg gan y Tîm Cydweithio Rhanbarthol a’i lletyo gan Gyngor Sir Ddinbych. Diolchwyd i Mary Wimbury, Prif Weithredwr Fforwm Gofal Cymru am ei gwaith o gadeirio’r Bwrdd.

 

Tywyswyd drwy’r adroddiad gan dynnu sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

·       Cadarnhawyd mai rôl y bwrdd yw cydweithio i sicrhau iechyd a lles pobl o bob oed yng Ngogledd Cymru.

·       Darparwyd diagram o holl is-fyrddau’r Bwrdd sy’n sicrhau fod rôl y Bwrdd yn cael ei gyflawni.

·       Nodwyd bod y ‘Cynllun Ardal’ ar gael ar wefan Cydweithredfa Gogledd Cymru sy’n dangos yr heriau a blaenoriaethau o fewn ardaloedd y Bwrdd, gan gynnwys Gwynedd.

·       Cyfeiriwyd at ddwy gronfa ranbarthol gyfalaf newydd y bwrdd sy’n darparu arian i brosiectau pwysig iawn ar draws y rhanbarth. Cadarnhawyd mai’r cronfeydd hyn ydi ‘Cronfa Tai â Gofal’ a ‘Cronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso’.

·       Adroddwyd ar nifer o brosiectau o fewn maes plant a phobl ifanc megis anableddau dysgu, iechyd meddwl, blynyddoedd cynnar a phrosiect ‘Dim Drws Anghywir’.

·       Esboniwyd bod y bwrdd yn derbyn arian o’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol a sefydlwyd gan y Llywodraeth yn Ebrill 2022. Eglurwyd bod hwn yn Gronfa am gyfnod o 5 mlynedd.

·       Darparwyd gwybodaeth am Aelodaeth y Bwrdd, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r sector gyhoeddus, iechyd, defnyddwyr gwasanaethau a’r trydydd sector.

·       Cyfeiriwyd at Gynllun Cyflawni Blynyddol y Bwrdd i ddarparu gwybodaeth am waith y Bwrdd i’r dyfodol

 

Cytunwyd i ddarparu cyflwyniad pellach i Aelodau’r Cabinet ar waith y Bwrdd.

 

Cydnabuwyd nad oedd strwythur llywodraethu clir ac eglur ar gyfer gwaith sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc. Cadarnhawyd bod y cylch gorchwyl yn cael ei adolygu ar hyn o bryd ac mae Is-fwrdd Plant a Phobl Ifanc yn blaenoriaethu’r gwaith hwn. Manylwyd nad yw aelodau etholedig yn rhan o’r is-fwrdd ac felly cadarnhawyd bod y Cyfarwyddwr Statudol wedi cysylltu gyda’r Llywodraeth i ystyried addasu aelodaeth.

 

Cadarnhawyd bod strwythur llywodraethu cymhleth y Bwrdd wedi ei ddarparu gan y Llywodraeth. Er hyn, cadarnhawyd bod gwaith y Bwrdd yn llwyddiannus iawn gan eu bod yn canolbwyntio ar lais defnyddwyr y gwasanaethau i ysgogi’r gwaith.

 

Diolchwyd i’r Bwrdd a’r holl swyddogion am eu gwaith.

 

Awdur: Dylan Owen Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol