7 FFRAMWAITH CEFNOGAETH I AELODAU PDF 153 KB
Ystyried yr
adroddiad.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad a’r
wybodaeth.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan egluro bod
sicrhau cefnogaeth i Gynghorwyr wedi bod yn allweddol yng Nghyngor Gwynedd ers
tro. Trwy gymorth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
mae’r Cyngor yn cydweithio a chymharu gydag awdurdodau lleol eraill gan ddysgu
ac elwa o’u profiadau. Erbyn hyn, eglurwyd bod y CLlLC
wedi datblygu Fframwaith Hunanasesu gwirfoddol sy’n cynnig meysydd gwahanol y
gall cynghorau ganolbwyntio arnynt er mwyn hunan-arfarnu eu perfformiad. Nodwyd
bod dogfen ymgynghorol wedi’i datblygu gan y gymdeithas a bod Cyngor Gwynedd
wedi sicrhau cyfle i gyflwyno sylwadau mewn ymateb i’r ddogfen ymgynghorol.
Esboniwyd bod Cyngor
Gwynedd yn awyddus i gynllunio er mwyn symud y gwaith yn ei flaen yn dilyn
derbyn y fframwaith terfynol. Argymhellwyd bod grŵp bach o aelodau’r
Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth yn cwrdd i asesu’r canlynol o’r fframwaith
terfynol:
·
A yw’r Cyngor yn
gyfrifol am y maes neu beidio?
·
Perfformiad
cyfredol y Cyngor yn erbyn disgwyliadau'r fframwaith.
·
A yw’n
flaenoriaeth gan y Cyngor?
·
A oes camau gwella posib.
Eglurwyd y gellir defnyddio’r camau uchod i
greu rhaglen waith o welliannau gan ddefnyddio’r fframwaith fel sail er mwyn
adnabod materion i’w blaenoriaethu.
Nodwyd y byddai hyn yn fan cychwyn effeithiol ond pwysleisiwyd y
byddai’n rhaid defnyddio’r fframwaith yn synhwyrol gan ystyried yr adnoddau
sydd ar gael gan y Cyngor.
Materion a godwyd yn ystod y drafodaeth:-
·
O ran creu’r grŵp bach, eglurwyd y
byddai’r Rheolwr Gwasanaeth Democratiaeth ac Iaith yn cysylltu gyda’r
cynrychiolwyr cyn gynted ag y bo’n amserol ar ôl i’r fframwaith fod yn
derfynol.
·
Cynigwyd bod y Cynghorwyr Dewi Owen,
Beca Roberts, Anne Lloyd-Jones a Cai Larsen yn ffurfio’r grŵp.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r
wybodaeth.