ACHOS BUSNES LLAWN Y PROSIECT CANOLFAN OPTEG A PHEIRIANNEG MENTER
Robyn Lovelock, Rheolwr Rhaglen Bwyd-amaeth a Thwristiaeth,
i gyflwyno’r adroddiad (sydd wedi’i gylchredeg i Aelodau’r Bwrdd yn unig).
Penderfyniad:
1. Bod y Bwrdd yn cymeradwyo'r
Achos Busnes Llawn ar gyfer y prosiect Canolfan Opteg a
Pheirianneg Menter gan adlewyrchu'r ceisiadau newid a gymeradwywyd yn y cam
Achos Busnes Amlinellol ac awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn
ymgynghoriad â'r Cadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro, i gytuno
ac ymrwymo i gytundeb ariannu gyda Phrifysgol Wrecsam er mwyn cyflawni'r
prosiect, ar y sail fod Prifysgol Wrecsam yn rhoi sylw i'r materion sy'n
weddill fel y nodir yn adran 7 o'r adroddiad.
2. Bod y Bwrdd yn nodi y bydd
camau diweddarach y prosiect yn amodol ar Brifysgol Wrecsam yn cynhyrchu Achos
Cyfiawnhad Busnes ar gyfer pob cyfnod gwariant.
3. Bod y Bwrdd yn dirprwyo i'r
Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, y Swyddog Adran 151
a'r Swyddog Monitro, awdurdod i gymeradwyo'r Achos Cyfiawnhad Busnes dilynol o
fewn sgôp yr Achos Busnes Llawn ar gyfer cyfnodau diweddarach y prosiect lle
mae gwariant a buddion yn unol â'r Achos Busnes Llawn a gyflwynir.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Robyn Lovelock, Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf.
PENDERFYNWYD
1. Bod y Bwrdd yn cymeradwyo'r Achos Busnes
Llawn ar gyfer y prosiect Canolfan Opteg a Pheirianneg
Menter gan adlewyrchu'r ceisiadau newid a gymeradwywyd yn y cam Achos Busnes
Amlinellol ac awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r
Cadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro, i gytuno ac ymrwymo i
gytundeb ariannu gyda Phrifysgol Wrecsam er mwyn cyflawni'r prosiect, ar y sail
fod Prifysgol Wrecsam yn rhoi sylw i'r materion sy'n weddill fel y nodir yn
adran 7 o'r adroddiad.
2. Bod y Bwrdd yn nodi y bydd camau
diweddarach y prosiect yn amodol ar Brifysgol Wrecsam yn cynhyrchu Achos
Cyfiawnhad Busnes ar gyfer pob cyfnod gwariant.
3. Bod y Bwrdd yn dirprwyo i'r Cyfarwyddwr
Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog
Monitro, awdurdod i gymeradwyo'r Achos Cyfiawnhad Busnes dilynol o fewn sgôp yr
Achos Busnes Llawn ar gyfer cyfnodau diweddarach y prosiect lle mae gwariant a
buddion yn unol â'r Achos Busnes Llawn a gyflwynir.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Ceisio
cymeradwyaeth y Bwrdd i Achos Busnes Amlinellol y Prosiect Ganolfan Opteg a
Pheirianneg Menter.
Cymeradwyodd y
Bwrdd yr Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect ar 29 Ebrill 2022 ynghyd â
chais am newid yn ymwneud â gostyngiad mewn arian cyfatebol ar gyfer y
prosiect. Wedi hynny derbyniodd y
prosiect gymeradwyaeth y broses sicrwydd gan Lywodraeth Cymru. Galluogodd hyn i Brifysgol Wrecsam fwrw
ymlaen â'r wedd caffael a datblygu Achos Busnes Llawn.
Mae Prifysgol Wrecsam
bellach wedi cwblhau'r caffael ar gyfer gwedd 1 y prosiect a bellach yn
cyflwyno Achos Busnes Llawn i'r Bwrdd am benderfyniad buddsoddi terfynol.
TRAFODAETH
Trafodwyd yr eitem.