7 BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU 2023/24 PDF 191 KB
Mabwysiadu
rhaglen waith ddiwygiedig.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Mabwysiadu rhaglen waith
diwygiedig ar gyfer 2023/24.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Craffu gan nodi’r prif
bwyntiau canlynol:
Atgoffwyd yr Aelodau bod Blaenraglen diwygiedig
y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gyfer 2023/24 wedi’i fabwysiadu yng nghyfarfod y
Pwyllgor ar 5 Hydref 2023.
Eglurwyd yr
angen i ddiwygio’r blaenraglen ar gyfer 2023/24
ymhellach. Tynnwyd sylw bod yr eitem ‘Strwythur Llywodraethant a Threfniadau
Cyflawni Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn’ wedi ei raglennu ar
gyfer y cyfarfod yma ond nid oedd yn amserol i’w ystyried. Nodwyd y derbyniwyd
cadarnhad gan Reolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn y
byddai’n amserol i gyflwyno’r eitem yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 18 Ebrill
2024. Sicrhawyd byddai hyn yn diwallu’r gofyniad i graffu gwaith y Bwrdd
dwywaith o fewn blwyddyn Cyngor.
Adroddwyd bod
eitem ‘Gwasanaethau Casglu Gwastraff ac Ailgylchu’ wedi cael ei raglennu i
gyfarfod 18 Ebrill 2024 yn ystod y gweithdy blynyddol eleni. Diweddarwyd mewn
cyfarfod rhwng Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, Aelod Cabinet Amgylchedd a
Phennaeth Adran Amgylchedd na fyddai’n amserol i graffu’r eitem hon yn ystod y
cyfarfod hwnnw. Ystyriwyd byddai craffu’r eitem yn hwyrach yn y flwyddyn yn
caniatáu i ffrydiau gwaith yn y maes hwn ddatblygu ymhellach. Awgrymwyd byddai
ail-raglennu’r eitem gan ystyried ei flaenoriaethu yng Ngweithdy Blynyddol
2024/25 ar gyfer cyfarfod cyntaf 2024/25 yn caniatáu’r Pwyllgor i ychwanegu
gwerth drwy graffu yn amserol.
Atgoffwyd yr
aelodau bod y Pwyllgor yn yr eitem flaenorol wedi penderfynu craffu’r
‘Strategaeth Llifogydd Lleol’ yng nghyfarfod 22 Chwefror 2024.
Nodwyd y
derbyniwyd cadarnhad yn dilyn cyhoeddi rhaglen y cyfarfod, ni fyddai’n bosib
cyflwyno adroddiad ‘Cyfarwyddyd Erthygl 4 - Ymgynghoriad Cyhoeddus’ i gyfarfod
y Pwyllgor ar 22 Chwefror 2024. Eglurwyd bod hyn oherwydd bod gwaith sylweddol
i’w wneud yn dilyn derbyn 3,900 o ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus.
Rhagwelwyd y
byddai’n bosib adrodd i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 18 Ebrill 2024. Awgrymwyd
er mwyn hwyluso hyn, y byddai’n opsiwn i dynnu’r eitem ‘Gwasanaeth Gwarchod y
Cyhoedd’ o’r blaenraglen ar gyfer 2023/24 gan nad
oedd pryder penodol am berfformiad yn y maes hwn. Ychwanegwyd y gellid rhoi
ystyriaeth i flaenoriaethu’r eitem ar gyfer 2024/25 yn y Gweithdy Blynyddol.
Nodwyd cefnogaeth
i’r bwriad i flaenoriaethu eitemau yn unol â’r uchod.
PENDERFYNWYD
Mabwysiadu rhaglen waith
diwygiedig ar gyfer 2023/24.