Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 24/11/2023 - Cyd-Bwyllgor Corfforedig Rhanbarth y Gogledd (eitem 5)

5 IS-BWYLLGOR SAFONAU - PENODI AELODAU pdf eicon PDF 137 KB

Iwan Evans, Swyddog Monitro, i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.         Mabwysiadu addasiadau i Gylch Gorchwyl yr Is Bwyllgor Safonau fel y nodir yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

2.         Mabwysiadu y meini prawf ar gyfer penodi aelodau annibynnol i'r Pwyllgor Safonau a Sefydlu Panel Cyfweld yn unol ag Atodiad 2.

3.         Dirprwyo trefnu y broses penodi i’r Swyddog Monitro.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Evans, Swyddog Monitro.

 

PENDERFYNWYD:

1.         Mabwysiadu addasiadau i Gylch Gorchwyl yr Is Bwyllgor Safonau fel y nodir yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

2.         Mabwysiadu y meini prawf ar gyfer penodi aelodau annibynnol i'r Pwyllgor Safonau a Sefydlu Panel Cyfweld yn unol ag Atodiad 2.

3.         Dirprwyo trefnu y broses penodi i’r Swyddog Monitro.

 

TRAFODAETH

 

Nododd y Swyddog Monitro ei fod braidd yn siomedig ynglŷn â’r newid i benodi aelodau annibynnol drwy broses statudol gan fod hynny’n golygu mynd drwy broses hysbysebu, cyfweld a phenodi, ac nad proses hawdd oedd cael ymgeiswyr. 

 

Ategwyd y sylw a nodwyd bod y newidiadau deddfwriaethol hyn yn golygu cost ychwanegol a llwyth gwaith ychwanegol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, nododd y Swyddog Monitro y gallai addasu’r meini prawf fel bod modd i’r Cadeirydd neu’r Is-gadeirydd enwebu aelod arall o’r Cyd-bwyllgor i ddirprwyo drostynt ar y Panel Cyfweld.

 

Awgrymwyd y gellid hepgor y frawddeg ‘Dim ond aelod annibynnol (Lleyg) o’r pwyllgor safonau all fod yn gadeirydd neu’n is-gadeirydd’ o’r Cylch Gorchwyl gan y byddai holl aelodau’r pwyllgor safonau yn aelodau lleyg beth bynnag.