5 ARCHWILIO CYMRU - CYNLLUN ARCHWILIO 2023 GwE PDF 742 KB
I gyflwyno adroddiad Archwilio Cymru.
Penderfyniad:
Derbyn a chymeradwyo Cynllun
Archwilio 2023.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi na fyddai’r
Cynllun Archwilio yn cael ei gyflwyno i’r un cyfarfod â’r cyfrifon fel arfer
ond oherwydd i gyfarfod diwethaf Cydbwyllgor GwE gael ei ohirio, fe’i gyflwynir
yn y cyfarfod yma. Eglurwyd bod y cynllun yn edrych ychydig yn wahanol i’r rhai
y mae Archwilio Cymru wedi’u paratoi yn y gorffennol a bod hyn o ganlyniad i
newidiadau yn y safonau archwilio rhyngwladol. Atgoffwyd y Cyd-bwyllgor nad
yw’r un archwiliad yn gallu rhoi sicrwydd cyflawn bod y cyfrifon wedi’u datgan
yn gywir a bod yr archwilwyr yn gweithio i lefel faterol.
Nodwyd bod y newidiadau yn y safonau archwilio
rhyngwladol yn golygu bod archwilwyr yn gorfod gwneud llawer mwy o waith ar y
risgiau rŵan a thynnwyd sylw at y risgiau sydd wedi’u trafod yn yr
adroddiad. Eglurwyd bod risg o wrthwneud gan y rheolwyr yn bresennol ym mhob
corff ac felly’n bresennol ym mhob cynllun archwilio yng Nghymru ac nad oedd
gan yr archwilwyr unrhyw reswm i gredu bod rheolwyr yn gwneud hyn yng
nghyfrifon GwE. Nodwyd bod yr ail risg yn gyffredinol ei natur hefyd ac felly
wedi ei gynnwys yn y mwyafrif o gynlluniau archwilio. Yn ogystal, esboniwyd bod
y drydedd risg wedi’i chynnwys oherwydd addasiadau a wnaed i gyfrifon 22/23 yng
nghyd-destun triniaeth arian grant.
Tynnwyd sylw at y ffi a godwyd am y gwaith gan nodi ei fod oddeutu 15%
yn uwch na’r ffi llynedd a bod hynny oherwydd chwyddiant a newidiadau yn y
trefniadau archwilio.
Holodd aelod am sefyllfa’r gronfa bensiwn ac a
fyddai GwE mewn sefyllfa i dynnu arian allan o’r gronfa. Mewn ymateb,
cadarnhawyd bod y gronfa yn endid ar wahân i unrhyw un o’r awdurdodau a’r
Cyd-bwyllgor a’i bod yn cael ei hail-brisio bob 3 mlynedd. Eglurwyd bod yr
ailbrisiad diweddaraf wedi digwydd yn Ebrill 2023 ac oherwydd bod lefel ariannu
Cronfa Bensiwn Gwynedd yn iach bu i gyfraniadau pob un o’r cyflogwyr yn y
gronfa ostwng yn gyffredinol. Cadarnhawyd nad yw tynnu arian yn ôl yn rhan o
bolisi Cronfa Bensiwn Gwynedd a’r hyn sy’n cael ei wneud yn lle yw gostwng y
cyfraniadau.
PENDERFYNWYD
Derbyn a chymeradwyo Cynllun Archwilio 2023.