Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 06/12/2023 - Cyd-Bwyllgor GwE (eitem 5)

5 ARCHWILIO CYMRU - CYNLLUN ARCHWILIO 2023 GwE pdf eicon PDF 742 KB

I gyflwyno adroddiad Archwilio Cymru. 

Penderfyniad:

Derbyn a chymeradwyo Cynllun Archwilio 2023.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi na fyddai’r Cynllun Archwilio yn cael ei gyflwyno i’r un cyfarfod â’r cyfrifon fel arfer ond oherwydd i gyfarfod diwethaf Cydbwyllgor GwE gael ei ohirio, fe’i gyflwynir yn y cyfarfod yma. Eglurwyd bod y cynllun yn edrych ychydig yn wahanol i’r rhai y mae Archwilio Cymru wedi’u paratoi yn y gorffennol a bod hyn o ganlyniad i newidiadau yn y safonau archwilio rhyngwladol. Atgoffwyd y Cyd-bwyllgor nad yw’r un archwiliad yn gallu rhoi sicrwydd cyflawn bod y cyfrifon wedi’u datgan yn gywir a bod yr archwilwyr yn gweithio i lefel faterol.

 

Nodwyd bod y newidiadau yn y safonau archwilio rhyngwladol yn golygu bod archwilwyr yn gorfod gwneud llawer mwy o waith ar y risgiau rŵan a thynnwyd sylw at y risgiau sydd wedi’u trafod yn yr adroddiad. Eglurwyd bod risg o wrthwneud gan y rheolwyr yn bresennol ym mhob corff ac felly’n bresennol ym mhob cynllun archwilio yng Nghymru ac nad oedd gan yr archwilwyr unrhyw reswm i gredu bod rheolwyr yn gwneud hyn yng nghyfrifon GwE. Nodwyd bod yr ail risg yn gyffredinol ei natur hefyd ac felly wedi ei gynnwys yn y mwyafrif o gynlluniau archwilio. Yn ogystal, esboniwyd bod y drydedd risg wedi’i chynnwys oherwydd addasiadau a wnaed i gyfrifon 22/23 yng nghyd-destun triniaeth arian grant.

 

Tynnwyd sylw at y ffi a godwyd am y gwaith gan nodi ei fod oddeutu 15% yn uwch na’r ffi llynedd a bod hynny oherwydd chwyddiant a newidiadau yn y trefniadau archwilio.

 

Holodd aelod am sefyllfa’r gronfa bensiwn ac a fyddai GwE mewn sefyllfa i dynnu arian allan o’r gronfa. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod y gronfa yn endid ar wahân i unrhyw un o’r awdurdodau a’r Cyd-bwyllgor a’i bod yn cael ei hail-brisio bob 3 mlynedd. Eglurwyd bod yr ailbrisiad diweddaraf wedi digwydd yn Ebrill 2023 ac oherwydd bod lefel ariannu Cronfa Bensiwn Gwynedd yn iach bu i gyfraniadau pob un o’r cyflogwyr yn y gronfa ostwng yn gyffredinol. Cadarnhawyd nad yw tynnu arian yn ôl yn rhan o bolisi Cronfa Bensiwn Gwynedd a’r hyn sy’n cael ei wneud yn lle yw gostwng y cyfraniadau.

 

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a chymeradwyo Cynllun Archwilio 2023.