Cyflwyno –
· Datganiad o’r
Cyfrifon ôl-Archwiliad;
· Adroddiad Swyddfa
Archwilio Cymru;
· Llythyr
Cynrychiolaeth.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn a nodi’r adroddiad ar ran Archwilydd Cyffredinol
Cymru, cymeradwyo cyfrifon 2022/23 ac awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi’r llythyr
cynrychiolaeth ar ran y Cyd-Bwyllgor.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bod Archwilio Cymru yn bwriadu cyhoeddi
adroddiad barn di-amod ar y cyfrifon eleni. Yn dilyn hynny, mae angen i GwE
baratoi llythyr ymateb yn seiliedig ar yr hyn sydd wedi’i nodi yn yr adroddiad.
Byddai rhaid i Gadeirydd y Cyd-Bwyllgor a’r Swyddog Cyllid arwyddo’r llythyr
cynrychiolaeth a’i gyflwyno i’r archwilwyr.
Tynnwyd sylw at un cywiriad sydd wedi’i nodi yn adroddiad yr archwilwyr.
Eglurwyd bod sefyllfa anarferol a digynsail wedi codi pan gyflwynwyd y cyfrifon
drafft yn ôl ym mis Gorffennaf. Nodwyd bod y sefyllfa yn un dechnegol a
digynsail ac nad oedd arweiniad clir am sut i ddelio gyda sefyllfa o’r fath. Yn
sgil hyn, bu i’r swyddogion cyllid gysylltu gydag Archwilio Cymru am arweiniad
ond cymerodd hi gryn dipyn o amser i’r archwilwyr weld beth oedd y driniaeth
gywir. Eglurwyd felly bod y newid yn deillio o’r cyfarwyddyd gwahanol a gafwyd
yn ddiweddarach am sut i ddelio gyda’r sefyllfa a bod y mater wedi ei ddatrys
bellach.
Cyfeiriwyd at baragraff chwech yr adroddiad sy’n nodi bod gwaith heb ei
gwblhau. Cadarnhawyd bod y gwaith wedi’i
gwblhau erbyn hyn ac nad oedd mater arall wedi codi. Esboniwyd bod y ffaith nad
oedd unrhyw faterion eraill wedi codi yn adlewyrchiad da iawn o’r trefniadau
sydd mewn lle i baratoi’r cyfrifon.
Diolchwyd i’r tîm yn Archwilio Cymru ac i’r tîm yn Adran Cyllid Cyngor
Gwynedd am eu gwaith caled a’u cydweithrediad. Ategwyd bod y cyfrifon yn
rhywbeth i ymfalchïo ynddynt a’u bod yn rhoi sicrwydd i’r aelodau bod y
blaenoriaethau yn y lle cywir a bod yr arian yn cael ei ddefnyddio yn briodol.
PENDERFYNWYD
Derbyn a nodi’r adroddiad ar ran Archwilydd
Cyffredinol Cymru, cymeradwyo cyfrifon 2022/23 ac awdurdodi’r Cadeirydd i
lofnodi’r llythyr cynrychiolaeth ar ran y Cydbwyllgor.