8 CYNLLUN BUSNES GwE 2023/2024 - ADRODDIAD MONITRO CHWARTER 1 & 2 PDF 170 KB
Cyflwyno Adroddiad Monitro Chwarter 1 a 2 Cynllun Busnes Rhanbarthol 2023/24 GwE i’r cydbwyllgor.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn a chymeradwyo’r adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE yr adroddiad gan nodi ei fod yn addas
bod y cynllun busnes yn dilyn yr adroddiadau ar y gyllideb oherwydd bod y cynllunio
gofalus sy’n digwydd wrth lunio’r cynllun busnes yn priodi gyda’r gofynion
cyllidebol. Canolbwyntiwyd ar ‘Amcan 1 – Gwella Ysgolion’ yn y cyfarfod hwn ac
eglurodd bod newid diwylliant wedi bod yn GwE dros y 5/6 mlynedd ddiwethaf.
Nododd bod hyn yn dwyn ffrwyth bellach a bod ganddynt berthynas agos gyda staff
yn yr ysgolion er mwyn gallu adnabod blaenoriaethau.
Aethpwyd ymlaen i nodi fod cylch arolygu’r chwe
awdurdod wedi dod i ben a bod yr adran ar wella ysgolion wedi dod allan yn
gryf. Eglurwyd nad oedd argymhelliad am sut y gellid gwella’r gwasanaeth gwella
ysgolion. Yn sgil hyn, nodwyd bod angen parhau gyda’r natur gadarnhaol ac y
byddai’n rhaid bwydo’r wybodaeth sy’n deillio o ganfyddiadau’r Grŵp Tasg a
Gorffen i’r cam nesaf.
Rhoddwyd cydnabyddiaeth i’r ffaith bod y cyfnod diweddar wedi bod yn
drwm o ran rheoleiddio ond bod yr adroddiadau yn gyson gadarnhaol. Golyga hyn
bod sicrwydd allanol bod GwE yn mynd i’r cyfeiriad cywir a bod y cydweithio yn
ddilyffethair. Pwysleisiwyd bod hyn yn allweddol i lwyddiant y gwasanaeth.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol, cyflwynodd yr aelodau y sylwadau
canlynol:
-
Diolchwyd
am yr adroddiad a chanmolwyd y gefnogaeth a’r holl waith sy’n cael ei wneud gan
y gwasanaeth.
-
Gofynnwyd
am allu rhannu’r adborth sy’n cael ei dderbyn ar draws y rhanbarth gyda’r
Cydbwyllgor gan ei bod hi’n bwysig gweld sut mae ysgolion yn teimlo ar draws y
rhanbarth fel y gellid cymharu gydag ysgolion o fewn yr awdurdodau unigol.
-
Mynegwyd pryder am adolygu’r graddau cyflogau er nad oedd sylw i hyn yn
yr adroddiad nac yn y Cynllun Busnes. Mewn ymateb, eglurwyd bod GwE fel
gwasanaeth yn edrych am gysondeb a thegwch a'i bod hi’n debygol y byddai’n
rhaid ail-strwythuro er mwyn sicrhau bod y strwythur priodol yn ei lle er mwyn
symud ymlaen. Nodwyd bod hyn yn drafodaeth i godi gyda’r Grŵp Tasg a
Gorffen a fyddai’n yn edrych ar y sefyllfa gyllidol yn ei chyfanrwydd.
PENDERFYNWYD
Derbyn a chymeradwyo’r adroddiad.