Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 06/12/2023 - Cyd-Bwyllgor GwE (eitem 8)

8 CYNLLUN BUSNES GwE 2023/2024 - ADRODDIAD MONITRO CHWARTER 1 & 2 pdf eicon PDF 170 KB

Cyflwyno Adroddiad Monitro Chwarter 1 a 2 Cynllun Busnes Rhanbarthol 2023/24 GwE i’r cydbwyllgor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a chymeradwyo’r adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE yr adroddiad gan nodi ei fod yn addas bod y cynllun busnes yn dilyn yr adroddiadau ar y gyllideb oherwydd bod y cynllunio gofalus sy’n digwydd wrth lunio’r cynllun busnes yn priodi gyda’r gofynion cyllidebol. Canolbwyntiwyd ar ‘Amcan 1 – Gwella Ysgolion’ yn y cyfarfod hwn ac eglurodd bod newid diwylliant wedi bod yn GwE dros y 5/6 mlynedd ddiwethaf. Nododd bod hyn yn dwyn ffrwyth bellach a bod ganddynt berthynas agos gyda staff yn yr ysgolion er mwyn gallu adnabod blaenoriaethau.

 

Aethpwyd ymlaen i nodi fod cylch arolygu’r chwe awdurdod wedi dod i ben a bod yr adran ar wella ysgolion wedi dod allan yn gryf. Eglurwyd nad oedd argymhelliad am sut y gellid gwella’r gwasanaeth gwella ysgolion. Yn sgil hyn, nodwyd bod angen parhau gyda’r natur gadarnhaol ac y byddai’n rhaid bwydo’r wybodaeth sy’n deillio o ganfyddiadau’r Grŵp Tasg a Gorffen i’r cam nesaf.

 

Rhoddwyd cydnabyddiaeth i’r ffaith bod y cyfnod diweddar wedi bod yn drwm o ran rheoleiddio ond bod yr adroddiadau yn gyson gadarnhaol. Golyga hyn bod sicrwydd allanol bod GwE yn mynd i’r cyfeiriad cywir a bod y cydweithio yn ddilyffethair. Pwysleisiwyd bod hyn yn allweddol i lwyddiant y gwasanaeth.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, cyflwynodd yr aelodau y sylwadau canlynol:

 

-        Diolchwyd am yr adroddiad a chanmolwyd y gefnogaeth a’r holl waith sy’n cael ei wneud gan y gwasanaeth.

-        Gofynnwyd am allu rhannu’r adborth sy’n cael ei dderbyn ar draws y rhanbarth gyda’r Cydbwyllgor gan ei bod hi’n bwysig gweld sut mae ysgolion yn teimlo ar draws y rhanbarth fel y gellid cymharu gydag ysgolion o fewn yr awdurdodau unigol.

-        Mynegwyd pryder am adolygu’r graddau cyflogau er nad oedd sylw i hyn yn yr adroddiad nac yn y Cynllun Busnes. Mewn ymateb, eglurwyd bod GwE fel gwasanaeth yn edrych am gysondeb a thegwch a'i bod hi’n debygol y byddai’n rhaid ail-strwythuro er mwyn sicrhau bod y strwythur priodol yn ei lle er mwyn symud ymlaen. Nodwyd bod hyn yn drafodaeth i godi gyda’r Grŵp Tasg a Gorffen a fyddai’n yn edrych ar y sefyllfa gyllidol yn ei chyfanrwydd.

 

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a chymeradwyo’r adroddiad.