10 CEFNOGAETH DYSGU PROFFESIYNOL GwE PDF 473 KB
I rannu gwybodaeth ar y Cynnig Dysgu
Proffesiynol.
Penderfyniad:
Derbyn a
chymeradwyo cynnwys yr adroddiad a’r cynlluniau i ddatblygu ac esblygu’r Cynnig
Dysgu Proffesiynol i’r dyfodol.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan egluro fod y Cynnig Dysgu Proffesiynol yn
cael ei ddarparu ar dair haen:
1.
Y
cynnig generig o raglenni dysgu proffesiynol neu’r hyfforddiant sydd ar gael i
bawb ar draws y rhanbarth.
2.
Y gefnogaeth dysgu broffesiynol sy’n hyrwyddo cydweithio mewn clystyrau
cynradd ac yn y cynghreiriau uwchradd yn ogystal â’r rhwydweithiau dysgu
proffesiynol sy’n cefnogi yn yr uwchradd, yn yr ysgolion arbennig ac yn y
cynradd.
3.
Y
cynnig dysgu proffesiynol penodol sydd ar gael i bob ysgol yn unigol trwy eu
cynllun cefnogaeth hwy.
Amlygwyd bod y gefnogaeth dysgu broffesiynol yn
wahanol ac ar wahân i’r gwaith gwella ysgolion. Esboniwyd bod y cynnig dysgu
proffesiynol generig yn eang a chynhwysfawr a’i fod yn deillio o’r
blaenoriaethau mwyaf cyffredin ymhlith ysgolion y rhanbarth. Awgrymwyd y byddai
modd dadlau bod y cynnig yn rhy eang ond amlygwyd bod y gwasanaeth yn
gwasanaethu oddeutu 12,000 o staff dysgu a bod ymdrech yn cael ei wneud i
sicrhau bod rhywbeth sy’n gweddu i bawb.
Nodwyd bod angen gwneud yn siŵr fod y neges am
hyfforddiant yn glir a bod angen cydweithio a chefnogi athrawon ac ymarferwyr.
Yn ei dro, eglurwyd bod angen ymrwymiad gan y staff y byddent yn rhoi’r hyn
maen nhw’n dysgu ar waith yn y dosbarth a bod y sesiynau hyfforddiant yn gyfle
da i athrawon gydweithio a rhannu arferion da.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol, cyflwynodd yr aelodau’r sylwadau
canlynol:
-
Nododd
yr aelodau eu bod yn gyfforddus ac yn fodlon gyda’r ddarpariaeth yn
gyffredinol.
-
Mynegwyd
pryder am y modd y noda’r adroddiad nad oes goblygiadau ariannol yn deillio o’r
cynnig gan ei bod hi’n amhosibl gwneud rhywbeth masnachol heb fuddsoddi arian
ac adnoddau dynol.
-
Yn
gysylltiedig â hynny, nodwyd ei bod hi’n bwysig edrych y tu allan i’r ysgolion
yng nghyd-destun creu incwm gan fod yr ysgolion dan bwysau ariannol enfawr yn
barod.
PENDERFYNWYD
Derbyn a chymeradwyo cynnwys yr adroddiad a’r cynlluniau i ddatblygu ac
esblygu’r Cynnig Dysgu Proffesiynol i’r dyfodol.