Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 06/12/2023 - Cyd-Bwyllgor GwE (eitem 10)

10 CEFNOGAETH DYSGU PROFFESIYNOL GwE pdf eicon PDF 473 KB

I rannu gwybodaeth ar y Cynnig Dysgu Proffesiynol.

Penderfyniad:

Derbyn a chymeradwyo cynnwys yr adroddiad a’r cynlluniau i ddatblygu ac esblygu’r Cynnig Dysgu Proffesiynol i’r dyfodol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan egluro fod y Cynnig Dysgu Proffesiynol yn cael ei ddarparu ar dair haen:

 

1.     Y cynnig generig o raglenni dysgu proffesiynol neu’r hyfforddiant sydd ar gael i bawb ar draws y rhanbarth.

2.     Y gefnogaeth dysgu broffesiynol sy’n hyrwyddo cydweithio mewn clystyrau cynradd ac yn y cynghreiriau uwchradd yn ogystal â’r rhwydweithiau dysgu proffesiynol sy’n cefnogi yn yr uwchradd, yn yr ysgolion arbennig ac yn y cynradd.

3.     Y cynnig dysgu proffesiynol penodol sydd ar gael i bob ysgol yn unigol trwy eu cynllun cefnogaeth hwy.

 

Amlygwyd bod y gefnogaeth dysgu broffesiynol yn wahanol ac ar wahân i’r gwaith gwella ysgolion. Esboniwyd bod y cynnig dysgu proffesiynol generig yn eang a chynhwysfawr a’i fod yn deillio o’r blaenoriaethau mwyaf cyffredin ymhlith ysgolion y rhanbarth. Awgrymwyd y byddai modd dadlau bod y cynnig yn rhy eang ond amlygwyd bod y gwasanaeth yn gwasanaethu oddeutu 12,000 o staff dysgu a bod ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod rhywbeth sy’n gweddu i bawb.

 

Nodwyd bod angen gwneud yn siŵr fod y neges am hyfforddiant yn glir a bod angen cydweithio a chefnogi athrawon ac ymarferwyr. Yn ei dro, eglurwyd bod angen ymrwymiad gan y staff y byddent yn rhoi’r hyn maen nhw’n dysgu ar waith yn y dosbarth a bod y sesiynau hyfforddiant yn gyfle da i athrawon gydweithio a rhannu arferion da.

 

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, cyflwynodd yr aelodau’r sylwadau canlynol:

 

-        Nododd yr aelodau eu bod yn gyfforddus ac yn fodlon gyda’r ddarpariaeth yn gyffredinol.

-        Mynegwyd pryder am y modd y noda’r adroddiad nad oes goblygiadau ariannol yn deillio o’r cynnig gan ei bod hi’n amhosibl gwneud rhywbeth masnachol heb fuddsoddi arian ac adnoddau dynol.

-        Yn gysylltiedig â hynny, nodwyd ei bod hi’n bwysig edrych y tu allan i’r ysgolion yng nghyd-destun creu incwm gan fod yr ysgolion dan bwysau ariannol enfawr yn barod.

 

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a chymeradwyo cynnwys yr adroddiad a’r cynlluniau i ddatblygu ac esblygu’r Cynnig Dysgu Proffesiynol i’r dyfodol.