Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 18/01/2024 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 6)

6 CYFRIFON TERFYNOL AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2023 A'R ARCHWILIAD PERTHNASOL pdf eicon PDF 268 KB

Cyflwynir:

·         Datganiad o’r Cyfrifon ôl-Archwiliad

·         Adroddiad ‘ISA260’ Archwilio Cymru

·         Llythyr Cynrychiolaeth (Atodiad 1)

 

I ystyried a chymeradwyo’r wybodaeth cyn awdurdodi’r Cadeirydd i ardystio’r llythyr

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

 

Cofnod:

Croesawyd Yvonne Thomas (Archwilio Cymru) i’r cyfarfod

 

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor ystyried a chymeradwyo’r Datganiad o’r Cyfrifon 2022/23 (ôl-archwiliad), adroddiad ‘ISA260’ Archwilio Cymru a’r Llythyr Cynrychiolaeth (Atodiad 1 i adroddiad Archwilio Cymru), cyn awdurdodi’r Cadeirydd i ardystio’r llythyr yn electroneg.

 

Nododd yr Aelod Cabinet Cyllid bod y Swyddogion wedi rhyddhau’r cyfrifon i Archwilio Cymru ers diwedd Mehefin 2023 fel bod modd i Archwilio Cymru baratoi adroddiad er cymeradwyaeth y Pwyllgor. Amlygodd rwystredigaeth nad oedd y cyfrifon wedi eu   dychwelyd tan ganol Rhagfyr.

 

Arweiniodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau, yr Aelodau drwy’r datganiad gan eu hatgoffa bod cyfrifon amodol wedi eu cyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Medi 2023 ble amlygwyd y prif faterion a’r nodiadau perthnasol. Adroddwyd bod mân addasiadau i’r  adroddiad hwnnw a tynnwyd sylw at y canlynol:

·         Bod nifer o’r addasiadau yn rhai technegol o ran triniaeth / sut mae rhywbeth yn cael ei gategoreiddio / sut mae pethau yn cael eu dangos a’u bod yn cael eu symud o un pennawd i’r llall, ond nad ydynt yn effaith ar linell waelod y cyfrifon.

·         Wrth gyfeirio at un ysgol eglwys, bod y ffigwr islaw'r ffigyrau ‘materol’, ac y byddai ei addasu yn golygu addasiadau niferus i nodiadau a datganiadau. Penderfynwyd  cytuno i weithredu hyn yng nghyfrifon 2023/24.

 

Tynnwyd sylw at falansau a chronfeydd y Cyngor, ac yn benodol at y Datganiad Symudiad mewn Reserfau sydd yn crynhoi sefyllfa ariannol y Cyngor. Nodwyd bod amrywiol o gronfeydd wedi eu hymrwymo (Reserfau ar gyfer y Rhaglen gyfalaf, Cronfa Premiwm Treth Cyngor, Reserfau Adnewyddu (cerbydau, offer, offer technoleg gwybodaeth ysgolion), Cronfa Trawsffurfio / Cynllun y Cyngor a’r Gronfa Strategaeth Ariannol).

 

Ategodd Archwilio Cymru bod Gwasanaeth Cyfrifeg Cyngor Gwynedd wedi ymgorffori’r addasiadau i’r datganiad terfynol a braf oedd nodi barn ddiamod eto eleni. Nodwyd bod y cyfrifon yn rhoi darlun cywir a theg o’r sefyllfa, yn cydymffurfio ag arferion priodol ac mai gweithio i lefel o ‘berthnasedd’ roedd Archwilio Cymru. Adroddwyd bod y lefel o berthnasedd yn cael ei  bennu i geisio adnabod a chywiro camddatganiadau allai beri fel arall i’r sawl sydd yn defnyddio’r cyfrifon gael eu camarwain. Pennwyd y lefel perthnasedd o £5.387miliwn ar gyfer yr archwiliad eleni.

 

Cyfeiriwyd eto at y camddatganiad Eiddo, Offer a Chyfarpar oedd yn cynnwys adeilad un ysgol eglwys nad oedd yn eiddo i’r Cyngor a bod y ffigwr islaw'r ffigyrau ‘materol’. Ategwyd bod Archwilio Cymru yn derbyn y penderfyniad  i weithredu hyn yng nghyfrifon 2023/24. Diolchwyd i’r tîm Cyllid am eu cymorth i gwblhau’r archwiliad.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd derbyn yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD:

·         Derbyn a chymeradwyo Adroddiad 'ISA260’ gan Archwilio Cymru ar gyfer Cyngor Gwynedd

·         Derbyn a chymeradwyo Datganiad o’r Cyfrifon 2022/23 (ôl-archwiliad) - Cadeirydd y Pwyllgor i ardystio’r Datganiad o Gyfrifoldebau am y Datganiad o’r Cyfrifon

·         Cadeirydd y Pwyllgor ynghyd a’r Pennaeth Cyllid i ardystio’r Llythyr Cynrychiolaeth yn electroneg

·         Llongyfarch y swyddogion ar eu gwaith o dderbyn datganiad diamod