Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 07/03/2024 - Y Cyngor (eitem 7)

7 ADOLYGIAD BLYNYDDOL - POLISI TAL Y CYNGOR 2024-25 pdf eicon PDF 127 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r Polisi Tâl ar gyfer 2024/25.

 

Cofnod:

 

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion, y Cynghorydd Menna Trenholme yr adroddiad oedd yn argymell i’r Cyngor gymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu Polisi Tâl y Cyngor ar gyfer 2024/25.

 

Cyfeiriwyd at yr oedi sylweddol yn 2023 cyn dod i gytundeb ynglŷn â’r cynnydd yng nghyflog holl staff y Cyngor o ganlyniad i’r broses fargeinio bresennol. Cyfrannodd y broses yma at y trafodaethau am osod cyllidebau a cheisio rhoi sicrwydd i Gynghorau am lefelau cyflog. Roedd trafodaethau maith rhwng yr Undebau a’r Cyngor ynglŷn â faint all y Cyngor fforddio oedd wedi arwain at oedi cyn dod i benderfyniad. Ychwanegwyd nad yw’r trafodaethau ar gyfer cyflog 2024/25 wedi dechrau hyd yma ac y bydd misoedd eto nes y bydd penderfyniad ar hyn.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Nodwyd bod tudalen 30 o’r adroddiad yn cyfeirio at Adolygiad Hutton o Gyflog Teg yn y Sector Gyhoeddus ac yn argymell cymhareb o ddim mwy na 1:20 rhwng y cyflog uchaf a’r cyflog isaf (swyddi llawn amser). Ategwyd bod yr adroddiad yn nodi fod y gymhareb hon yng Nghyngor Gwynedd yn 1:5.6. Ychwanegwyd bod llawer o’r swyddi ar y lefel isaf ddim yn swydd llawn amser ac y byddai’n dda darganfod beth fyddai’r gymhareb o gysidro swyddi rhan amser e.e. cytundebau 23 awr yr wythnos neu gymhorthydd Ysgol sy’n gweithio yn ystod y tymor Ysgol yn unig.

·         Cyfeiriwyd at ran 5 o’r tabl (Atodiad 1) ar dudalen 34 gan wneud sylw y byddai’r tabl yn gliriach pe bai pob swydd yn cael ei nodi yno un o dan y llall er gwaetha’r ffaith eu bod nhw ar yr un raddfa. Credwyd nad yw defnydd yr atalnodau yn ei wneud yn glir yn ei fformat bresennol.

·         Nodwyd bod yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, mewn ymateb i gwestiwn aelod yn gynharach, wedi nodi bod trosiant staff yn isel yn yr Awdurdod yma, gan ychwanegu bod eithriadau fel Gofal Cymdeithasol a Pheirianneg. Gofynnwyd ble mae’r cyfiawnhad dros ddefnyddio pwysau’r farchnad ar y lefelau cyflog.

 

Mewn ymateb, nododd y Prif Weithredwr:-

 

·         Mai cymhareb ar sail pro rata ydyw er mwyn cymharu’r ddau lefel cyflog ochr yn ochr yn deg. Cynigiwyd darparu’r ffigwr yn seiliedig ar staff sydd ddim yn gweithio oriau llawn amser i’r aelod ar ôl y cyfarfod petai derbyn y wybodaeth yma o ddiddordeb iddo.

·         Derbyniwyd sylw’r aelod o ran y tabl yn yr adroddiad gan nodi y byddai’r atalnod yn cael ei addasu yn y dyfodol er mwyn ei wneud yn fwy twt.

·         Nodwyd mai prin iawn iawn yw’r defnydd o atodiad y farchnad gan nodi nad yw hyn yn arferiad sy’n cael ei wneud mewn unrhyw amgylchiadau sefydlog.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r Polisi Tâl ar gyfer 2024/25.