11 BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU GOFAL 2024/25 PDF 287 KB
Cyflwyno rhaglen waith ddrafft y Pwyllgor ar gyfer 2024/25 i’w
mabwysiadu.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
a) Mabwysiadu
rhaglen waith y Pwyllgor ar gyfer 2024/25.
b) Cytuno i
ychwanegu eitem ychwanegol Polisi Codi Tâl am Ofal (Adran Oedolion, Iechyd a
Llesiant) i gyfarfod 26 Medi 2024.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch
Ymgynghorydd Iaith a Chraffu.
Atgoffwyd yr aelodau bod Blaenraglen y
Pwyllgor yn seiliedig ar y materion a drafodwyd yng Ngweithdy Blynyddol y
Pwyllgor a gynhaliwyd ar 30 Ebrill 2024.
Cadarnhawyd bod tair eitem wedi cael eu
rhaglennu ar gyfer pob cyfarfod yn ystod y flwyddyn oni bai am un cyfarfod
penodol ym mis Tachwedd i graffu’r maes Tai Cymdeithasol yn unig a chyfarfod ym
mis Ionawr i drafod materion Iechyd megis pryder am feddygon teulu, iechyd
meddwl a pherthynas cydweithiol â’r gwasanaeth ambiwlans.
Diweddarwyd bod yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a
Chraffu wedi derbyn cais gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn gofyn i’r
Pwyllgor ystyried ychwanegu eitem ‘Polisi Codi Tâl am Ofal’ ar gyfer cyfarfod
26 Medi 2024. Esboniwyd bod yr Adran yn awyddus i dderbyn sylwadau ac
ystyriaethau’r Pwyllgor cyn cyflwyno adroddiad i’r Cabinet. Nodwyd y golyga hyn
y byddai pedair eitem i’w craffu yng nghyfarfod 26 Medi 2024 o’r Pwyllgor.
Anogwyd yr Aelodau i ystyried pa faterion
maent yn dymuno i’r Adrannau eu cynnwys yn yr adroddiadau i’r Pwyllgor.
Ymhelaethwyd bydd modd i’r Aelodau drafod y materion hynny mewn cyfres o
gyfarfodydd paratoi. Pwysleisiwyd mai nod y cyfarfodydd paratoi fydd canfod
prif faterion sydd angen eu craffu o fewn y meysydd gan arwain at gwestiynau
atodol yn y cyfarfodydd ffurfiol. Cadarnhawyd bydd yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a
Chraffu yn ymgynghori â’r Swyddog Gwasanaethau Democratiaeth er mwyn canfod
dyddiadau addas ar gyfer y cyfarfodydd paratoi gan wneud pob ymdrech i sicrhau
eu bod yn cael eu cynnal ar ddyddiau Iau oherwydd argaeledd yr Aelodau.
Cydnabuwyd na fydd hyn yn bosib ar bob achlysur ond sicrhawyd bydd amser
cychwyn y cyfarfodydd yn 4yh gan fod yr amser yma yn gyfleus i fwyafrif o’r
Aelodau.
PENDERFYNWYD
a)
Mabwysiadu
rhaglen waith y Pwyllgor ar gyfer 2024/25.
b)
Cytuno
i ychwanegu eitem ychwanegol Polisi Codi Tâl am Ofal (Adran Oedolion, Iechyd a
Llesiant) i gyfarfod 26 Medi 2024.