Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 21/06/2024 - Cyd-Bwyllgor Corfforedig Rhanbarth y Gogledd (eitem 8.)

8. ADRODDIAD ALLDRO A FFURFLEN FLYNYDDOL 2023/24 pdf eicon PDF 515 KB

Dewi A Morgan, Pennaeth Cyllid y CBC (Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol y CBC i ddarparu diweddariad ar sefyllfa alldro terfynol 2023/24 i Gyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd a chael cymeradwyaeth i'r Ffurflen Flynyddol Swyddogol ar gyfer 2023/24.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1.    Nodi a derbyn gwir wariant ac incwm y Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar gyfer 2023/24 fel y’i cyflwynwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

2.    Cymeradwyo trosglwyddo’r tanwariant yn 2023/24 i gronfa wrth gefn wedi’i chlustnodi ar gyfer ariannu costau unwaith ac am byth yn y dyfodol.

3.    Cymeradwyo Ffurflen Flynyddol Swyddogol y Cydbwyllgor Corfforedig ar gyfer 2023/24 (amodol ar Archwiliad Allanol), yn unol â'r amserlen statudol, sef 30 Mehefin 2024. (Mae wedi'i chwblhau a'i hardystio'n briodol gan Bennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd fel Swyddog Cyllid Statudol y Cydbwyllgor Corfforedig (Atodiad 2 i’r adroddiad)).