Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 21/06/2024 - Cyd-Bwyllgor Corfforedig Rhanbarth y Gogledd (eitem 9.)

9. DIWEDDARIAD: SWYDDOGAETHAU BWRDD UCHELGAIS ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU – TROSGLWYDDO I'R CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG pdf eicon PDF 227 KB

Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr y Cyngor Arweiniol ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd  ag Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru a Phrif Weithredwr dros dro Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd i gyflwyno diweddariad pellach ar gynnydd i sefydlu'r Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) gan ymateb i'w swyddogaethau statudol a chyflawni trosglwyddiad arfaethedig swyddogaethau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i'r CBC.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1.    Derbyn yr adroddiad ar y diweddariad cynnydd ar y gwaith i sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ac ymateb i'r tasgau sy'n ofynnol gan ei swyddogaethau statudol (Atodiad 1 i’r adroddiad).

2.    Derbyn y cynllun wedi'i ddiweddaru ynghyd â'r dyddiad diwygiedig o’r 1af o Dachwedd ar gyfer trosglwyddo Cynllun Twf Gogledd Cymru i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd.

3.    Cymeradwyo’r trefniadau interim i ryddhau amser y Cyfarwyddwr Portffolio am ddau ddiwrnod yr wythnos i ymgymryd â rôl y Prif Weithredwr Dros Dro a’i ymestyn hyd at 31 Hydref, 2024. (Bydd yr holl gostau cyflogaeth a chostau cysylltiedig yn parhau i gael ei dalu gan CBC y Gogledd).

4.    Gofyn am adroddiad pellach ar gynnydd yn y broses drosglwyddo a monitro o'r amserlen.