Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 19/07/2024 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (eitem 1)

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:-

 

·       Y Cynghorydd Mark Pritchard (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) (Is-gadeirydd)

·       Yr Athro Edmund Burke (Prifysgol Bangor) gyda Chris Drew yn dirprwyo;

·       Yr Athro Joe Yates (Prifysgol Wrecsam)

·       Yana Williams (Coleg Cambria)

·       Aled Jones-Griffith (Grŵp Llandrillo Menai)

·       Neal Cockerton (Cyngor Sir y Fflint) gydag Andy Farrow yn dirprwyo;

·       Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd) gyda Llyr Beaumont Jones yn dirprwyo.

·       Gareth Ashman a Suan Concoran (Sylwedyddion Llywodraeth y DU) gyda John Hawkins yn dirprwyo.

 

Croesawodd y Cadeirydd y dirprwyon i’r cyfarfod.

 

Diolchwyd i Robyn Lovelock (Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf) am ei chyfraniad sylweddol i waith y Bwrdd Uchelgais dros nifer o flynyddoedd, wrth iddi fynychu ei chyfarfod olaf. Mynegwyd dymuniadau da iddi i’r dyfodol.

 

Rhannwyd datganiadau o ddymuniadau da i Llinos Medi (cyn Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn) wedi iddi fod yn llwyddiannus yn yr Etholiad Gyffredinol yn ddiweddar. Diolchwyd iddi am ei chyfraniad i’r Bwrdd yn ystod ei chyfnod fel Cynghorydd a dymunwyd pob llwyddiant i’r dyfodol.