Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 19/07/2024 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (eitem 6)

6 DATGANIAD O GYFRIFON Y BUEGC AM 2023/24 pdf eicon PDF 507 KB

Dewi A Morgan (Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh (Penneath Cyllid Cynorthwyol yr Awdurdod Lletya) i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon Drafft y Bwrdd Uchelgais (yn amodol ar archwiliad) am 2023/24.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Cyllid Statudol.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon Drafft y Bwrdd Uchelgais (yn amodol ar archwiliad) am 2023/24.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Nid oes gofyn statudol i’r Bwrdd gymeradwyo’r fersiwn ddrafft o Ddatganiad o Gyfrifon y Cydbwyllgor, ond rydym yn ystyried fod cyflwyno’r datganiad drafft er gwybodaeth yn arfer da i’w ddilyn.

 

Bydd angen i’r Bwrdd gymeradwyo’r fersiwn terfynol ar ôl derbyn adroddiad Archwilio Cymru, ond mae cyflwyno fersiwn ddrafft rŵan yn gyfle i aelodau’r Bwrdd ystyried y cynnwys a holi swyddogion ariannol am y cynnwys. Mae hyn yn gyfle i’r Aelodau arfogi eu hunain gyda gwybodaeth berthnasol er mwyn ystyried risgiau perthnasol, a materion eraill fydd yn destun archwiliad, yn eu cyd-destun.

 

TRAFODAETH

                                  

Atgoffwyd yr Aelodau bod y wybodaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad eisoes wedi ei rannu mewn ffurf amgen yng nghyfarfod  bwrdd ar 17eg o Fai eleni wrth ystyried sefyllfa Alldro Refeniw a Chyfalaf y Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2023/24, ac atgoffwyd yr Aelodau o’r penderfyniadau a wnaed. Pwysleisiwyd bod y wybodaeth a gyflwynwyd yn yr Adroddiad hwn yn gyson gyda’r wybodaeth hynny.

 

Eglurwyd bod yr Adroddiad yn cyflwyno materion technegol yn ymwneud â chonfensiynau cyfrifo. Cyfeiriwyd at wahanol rannau’r Adrannau gan fanylu ar wariant cyfalaf, balansau’r cronfeydd a chyfanswm  grantiau a dderbyniwyd hyd at 31 Mawrth 2024.

 

Cadarnhawyd bod gwerth yr asedau pensiwn yn parhau i fod yn fwy na gwerth yr ymrwymiadau. Ymhelaethwyd bod sefyllfa ased net o £404,000 ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Cydnabuwyd bod hyn yn ostyngiad o’r flwyddyn flaenorol ble roedd sefyllfa ased net yr asedau pensiynau yn £572,000. Eglurwyd bod lleihad eleni gan fod prisiau'r actwari yn defnyddio bondiau corfforaethol y Deyrnas Unedig. Nodwyd bod cynnyrch y bondiau corfforaethol wedi bod yn uchel o ganlyniad i log uchel a chwyddiant uchel, gan arwain at gyfraddau disgownt cyfrifyddu uwch sy’n rhoi gwerth sylweddol is ar yr ased o ganlyniad i log uchel a chwyddiant ychwanegiadau pensiwn. Cadarnhawyd yr addaswyd gwerth yr ased ar y fantolen a’i ddangos fel £0 yn unol â’r cyfarwyddyd gan yr actwari.

 

Adroddwyd bod y Swyddog Cyllid Statudol wedi arwyddo’r Datganiad ar 21 Mehefin 2024 gan dystio ei fod o’r farn ei fod wedi ei baratoi yn unol â’r cod ymarfer a osodwyd gan Côd Ymarfer CIPFA ar Gyfrifo ar gyfer Awdurdodau Lleol. Credir fod y datganiad yn cyflwyno darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol y Bwrdd Uchelgais ar 31 Mawrth 2024 yn ogystal ag incwm a gwariant y Cyd-bwyllgor am y flwyddyn a ddaeth i ben ar y diwrnod hwnnw.

 

Pwysleisiwyd bod y Datganiad yn cael ei adolygu gan Archwilio Cymru, archwilwyr allanol y Bwrdd Uchelgais, ar hyn o bryd. Ymhelaethwyd bydd y cyfrifon terfynol yn ogystal ag adroddiad yr archwilwyr yn cael eu cyflwyno i’r Cyd-bwyllgor yn ystod yr hydref.

 

Ystyriwyd bod lefelau reserfau wedi dyblu yn y blynyddoedd diwethaf er mwyn ariannu cronfa incwm llog. Eglurwyd bydd yr arian hwn yn cael ei wario yn y dyfodol os bydd cyfraddau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6