Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 19/07/2024 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (eitem 7)

7 DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL pdf eicon PDF 228 KB

Hedd Vaughan Jones (Pennaeth Gweithrediadau) i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a cymeradwyo y Datganiad Llywodraethu Blynyddol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Gweithrediadau.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a cymeradwyo y Datganiad Llywodraethu Blynyddol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae Rheoliadau Cyfrifo ac Archwilio (Cymru) (fel y’i diwygiwyd) yn gosod gofynion penodol ar gyrff cyhoeddus sydd yn gweithredu trefniadau rheoli partneriaethol trwy gydbwyllgorau ffurfiol.

 

Gofyniad Rhan 5 yw i’r Cyd-Bwyllgor adolygu a chymeradwyo datganiad rheolaeth fewnol.  Mae’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol wedi ei ddarparu i gyd-fynd â’r gofyniad hwn. Mae'r ddogfen wedi ei pharatoi i gynnig fframwaith i weithrediad y Bwrdd Uchelgais.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr Adroddiad yn eu ffurf flynyddol gan gadarnhau mai newidiadau bychain a wnaed eleni yn unol â sylwadau ac argymhellion gan archwilwyr.

 

Eglurwyd bod yr Adroddiad yn cyflwyno gwybodaeth ar nifer o faterion er mwyn sicrhau bod trefniadau llywodraethu mewnol yn gadarn ac yn addas i bwrpas.