Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 19/07/2024 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (eitem 10)

ACHOS FUSNES AMLINELLOL CYDNERTH

Penderfyniad:

1.     Cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer prosiect Cydnerth sy’n ddarostyngedig i Menter Môn Morlais Cyf yn mynd i’r afael â’r materion a nodir yn yr adroddiad, fel y disgrifir yn Adran 7.1, ac yn gofyn i Achos Busnes Llawn gael ei pharatoi i’r Bwrdd ei ystyried.

2.     Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro’r Awdurdod Lletya, i gytuno ar delerau drafft yn unol â’r Adroddiad fel sail ar gyfer y trefniadau cyllido terfynol ar gyfer y prosiect a fydd yn sail i’r cyllid gael ei gytuno gan y Bwrdd yn y cam Achos Busnes Llawn.

3.     Nodi fod y model ariannu arfaethedig ar gyfer y prosiect yn 100% benthyciad masnachol yn ddarostyngedig i gadarnhad o’r sefyllfa rheoli cymhorthdal wrth gymeradwyo’r Achos Busnes Llawn, ac yn cymeradwyo mewn egwyddor fod y llog o’r benthyciad, unwaith y bydd cost taliadau benthyca ar gyfer yr elfen benthyciad wedi’i dalu, yn cael ei ddyrannu i gronfa i’w defnyddio i ariannu’r Swyddfa Rheoli Portffolion yn y blynyddoedd i ddod.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen Ynni Carbon Isel.

PENDERFYNIAD

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

Ceisio cymeradwyaeth y Bwrdd i Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Cydnerth.

TRAFODAETH

Trafodwyd yr adroddiad.