Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 19/07/2024 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (eitem 11)

CANOLFAN BIODECHNOLEG AMGYLCHEDDOL - ACHOS CYFIAWNHAD BUSNES

Penderfyniad:

1.     Cymeradwyo’r Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer prosiect Canolfan Biodechnoleg Amgylcheddol ac awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolion, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro, i gytuno ac ymrwymo i gytundeb ariannu gyda Phrifysgol Bangor er mwyn cyflawni’r prosiect, yn ddarostyngedig i Brifysgol Bangor yn rhoi sylw i’r materion sy’n weddill fel  nodir yn Adran 7 o’r Adroddiad ac yn sicrhau’r holl gymeradwyaeth mewnol angenrheidiol ar gyfer y prosiect.

2.     Nodi bydd dau gam caffael pellach ar gyfer cyflawni’r prosiect a dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd a’r Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gymeradwyo manylion caffael a dyfarnu cyn rhyddhau cyllid ar gyfer y camau hyn.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Rhaglen y Cynllun Twf.

PENDERFYNIAD

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

Ceisio cymeradwyaeth y Bwrdd i Achos Cyfiawnhad Busnes Llawn ar gyfer Prosiect Canolfan Biodechnoleg Amgylcheddol.

Mae Prifysgol Bangor wedi cwblhau’r gwaith caffael ar gyfer y prosiect gyda prynu offer wedi’i gynllunio. Bydd yr Achos Cyfiawnhad Busnes yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd am benderfyniad Buddsoddi terfynol. Oherwydd natur a gwerth y prosiect, yn unol â chanllawiau ‘Better Business Case’ cyflwynir Achos Cyfiawnhad Busnes sy’n gofyn am gymeradwyaeth sengl gan y Bwrdd yn unig.

TRAFODAETH

Trafodwyd yr adroddiad.