Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Elwyn Edwards
Yn unol â’r Rhybudd
o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol
ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad,
bydd y Cynghorydd Elwyn Edwards yn cynnig fel a ganlyn:-
Mae Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth San Steffan
i drosglwyddo’r hawl i Lywodraeth Cymru yng Nghaerdydd i ddynodi Mawrth y 1af o
bob blwyddyn yn wyliau cenedlaethol swyddogol yng Nghymru gan gydnabod Dewi
Sant yn Nawddsant Cymru. Fe wneir hyn gyda Seintiau Yr Alban a Gogledd
Iwerddon. Hefyd mae’r Cyngor yn gofyn am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i hyn
(mae wedi datgan ei chefnogaeth o’r blaen) yn ogystal â holl gynghorau Sir,
Tref a Bro yng Nghymru.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Mae Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth San Steffan i drosglwyddo’r
hawl i Lywodraeth Cymru yng Nghaerdydd i ddynodi Mawrth y 1af o bob blwyddyn yn
wyliau cenedlaethol swyddogol yng Nghymru gan gydnabod Dewi Sant yn Nawddsant
Cymru. Fe wneir hyn gyda Seintiau Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Hefyd mae’r
Cyngor yn gofyn am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i hyn (mae wedi datgan ei
chefnogaeth o’r blaen) yn ogystal â holl gynghorau Sir, Tref a Bro yng Nghymru.
Cofnod:
Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y
Cynghorydd Elwyn Edwards o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-
PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r cynnig, sef:-
Mae Cyngor Gwynedd yn
galw ar Lywodraeth San Steffan i drosglwyddo’r hawl i Lywodraeth Cymru yng
Nghaerdydd i ddynodi Mawrth y 1af o bob blwyddyn yn wyliau cenedlaethol
swyddogol yng Nghymru gan gydnabod Dewi Sant yn Nawddsant Cymru. Fe wneir hyn gyda Seintiau Yr Alban a Gogledd
Iwerddon. Hefyd mae’r Cyngor yn gofyn am
gefnogaeth Llywodraeth Cymru i hyn (mae wedi datgan ei chefnogaeth o’r blaen)
yn ogystal â holl gynghorau Sir, Tref a Bro yng Nghymru.