10 SAFONAU'R GYMRAEG: HYSBYSIAD CYDYMFFURFIO PDF 224 KB
Alwen
Williams (Prif Weithredwr Dros Dro Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd) i gyflwyno’r
adroddiad.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
1. Derbyn
Safonau'r Gymraeg sydd wedi'u gosod ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd
(CBC) (Atodiad 2 ).
2.
Gofyn i'r Prif Weithredwr dros dro ddatblygu cynnig
sy'n nodi'r opsiynau a'r costau i gomisiynu adnoddau swyddog sydd ei angen ar
gyfer gweithredu, monitro ac adrodd ar safonau'r Gymraeg.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Alwen Williams, Prif Swyddog Dros Dro y CBC.
PENDERFYNWYD:
1.
Derbyn Safonau'r Gymraeg
sydd wedi'u gosod ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (CBC) (Atodiad
2 ).
2. Gofyn i'r Prif Weithredwr dros dro ddatblygu cynnig sy'n nodi'r opsiynau
a'r costau i gomisiynu adnoddau swyddog sydd ei angen ar gyfer gweithredu,
monitro ac adrodd ar safonau'r Gymraeg.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad
oedd yn cyflwyno Hysbysiad Cydymffurfio terfynol ar safonau'r Gymraeg ar gyfer
y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Eglurwyd bod yr Hysbysiad Cydymffurfio drafft wedi
ei gyflwyno yn flaenorol ac yna cyfnod o ymgynghori i ddilyn. Nodwyd na dderbyniwyd
unrhyw sialensiau na chwestiynau gan aelodau ynglŷn â’r safonau oedd wedi
eu gosod ar gyfer y Cyd-bwyllgor. Er hyn nodwyd bod yr adroddiad yn tynnu sylw
at gwpl o safonau sydd wedi eu tynnu allan ar gyfer y Cydbwyllgorau i gyd yn
genedlaethol.
Nodwyd bod y Cyd-bwyllgor
yn gorff cyhoeddus felly yn unol â’r rheoliadau bod angen i’r Cyd-bwyllgor
dderbyn a chydymffurfio â’r safonau. Y dyddiad sydd wedi ei nodi gan y
Comisiynydd Iaith ar gyfer cydymffurfiad y Cyd-bwyllgor ydi erbyn diwedd mis
Chwefror 2025. Nodwyd ei bod yn ofynnol i Brif Swyddog dros dro y CBC gyflwyno
adroddiad pellach yn amlygu sut fydd y trefniadau yn cael ei gosod a’r opsiynau
i gefnogi’r Cyd-bwyllgor i gydymffurfio â’r safonau.