6 CYD-BWYLLGOR BWRDD UCHELGAIS ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU - CYNLLUN ARCHWILIO MANWL 2024 PDF 639 KB
I gyflwyno Cynllun Archwilio Manwl ar gyfer Cyd-Bwyllgor Bwrdd Uchelgais Economaidd
Gogledd Cymru a ddarparwyd gan
Archwilio Cymru.
Penderfyniad:
Derbyniwyd
adroddiad Archwilio Cymru a oedd yn amlygu cynllun archwilio’r Bwrdd Uchelgais
ar gyfer 2024.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan gynrychiolydd Archwilio Cymru.
PENDERFYNWYD
Derbyniwyd adroddiad Archwilio
Cymru a oedd yn amlygu cynllun archwilio’r Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2024.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Archwilio datganiadau ariannol Cyd-bwyllgor Bwrdd
Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i sicrhau y rhoddir cyfrif priodol am arian
cyhoeddus.
Rhaid i’r Cyd-bwyllgor roi trefniadau ar waith i
gael gwerth am arian am yr Adnoddau y mae’n eu defnyddio, a rhaid i’r
Archwilydd Cyffredinol fod wedi’i fodloni ei fod yn gwneud hyn.
TRAFODAETH
Tywyswyd drwy
Gynllun Archwilio Manwl 2023-24 gan amlinellu’r ffi, risgiau cydnabydiedig,
gwybodaeth am y tîm archwilio ac yr amser a gymerwyd i gwblhau’r archwiliad.
Cyhoeddwyd bod y
lefel materol wedi ei nodi’n £83,000. Eglurwyd bod y ffigwr hwn wedi ei gyfrifo
drwy ganfod 2% (canran perthnasedd) o’r gwariant gros ar hyd y flwyddyn
ariannol 2023-24 (£4.159 miliwn). Nodwyd bod y ffi hwn yn uwch na’r flwyddyn
flaenorol oherwydd cynnydd mewn gwariant gros. Ymhelaethwyd bod lefel
perthnasedd is wedi ei bennu ar gyfer rhai meysydd o’r cyfrifon oherwydd
gallent fod yn bwysicach i ddefnyddwyr y cyfrifon. Eglurwyd mai’r meysydd hynny
yw ‘Tâl uwch swyddogion’ ac ‘Datgeliadau partïon cysylltiedig’.
Tynnwyd sylw at un
risg sylweddol sydd wedi cael ei nodi yn dilyn asesiad o risg cynhenid.
Cadarnhawyd mai’r risg yw y gall Rheolwr ddi-ystyrru rheolaethau. Esboniwyd bod
y risg wedi ei nodi ar gyfer Arddangosyn 1: risgiau sylweddol i ddatganiadau
ariannol, ac ei fod yn cael ei nodi ym mhob cynllun archwilio ar gyfer pob
Corff yng Nghymru. Pwysleisiwyd nad yw hwn yn risg sydd wedi cael ei nodi ar
gyfer y Bwrdd hwn yn unig. Sicrhawyd bydd Archwilio Cymru yn sicrhau bod eu
gweithdrefnau yn ymateb i’r risg hwn.
Esboniwyd bod
‘Prisio rhwymedigaeth net cronfa bensiwn’ wedi cael ei nodi fel risg o fewn
Arddangosyn 2: meysydd eraill y canolbwyntir arnynt, fel Risg Archwilio. Nodwyd
bod y risg hwn yn gyffredinol ei natur ac bydd i’w weld mewn nifer o gynlluniau
archwilio diweddar. Pwysleisiwyd nad yw’r risg hon wedi cael ei nodi ar
gyfer Bwrdd hwn yn unig.
Manylwyd ar
amserlen yr archwiliad gan nodi bod y gwaith Cynllunio Archwilio Manwl wedi ei
gwblhau ym mis Gorffennaf 2024 ac bu i’r gwaith archwilio gael ei gyflawn ym
mis Awst 2024. Nodwyd y bwriedir cyflwyno adroddiad pellach i’r Bwrdd ym mis
Tachwedd.
Amlygwyd bod
ffioedd ar gyfer 2024-25 wedi cynyddu 6.4% o ganlyniad i chwyddiant.
Amcangyfrifwyd bydd cyfamswm ffioedd archwilio yn £26,754 gan bwysleisio bydd
ad-daliad yn cael ei gyflwyni i’r Bwrdd os bydd y gwir ffi yn is, gan nad oes
modd i Archwilio Cymru wneud elw.
Diolchwyd i’r swyddogion
sydd wedi bod yn cydweithio gydag Archwilio Cymru er mwyn ymateb i unrhyw
ymholiadau drwy gydol y broses archwilio.