6. BLAEN GYNLLUN GWAITH YR IS-BWYLLGOR TRAFNIDIAETH STRATEGOL PDF 174 KB
Claire
Incledon (Dirprwy Swyddog Monitro) i gyflwyno’r adroddiad.
Dogfennau ychwanegol:
6 CYLCH GORCHWYL AR GYFER YR IS-BWYLLGOR TRAFNIDIAETH STRATEGOL PDF 169 KB
I adolygu’r Cylch Gorchwyl ar gyfer yr Is-bwyllgor
Trafnidiaeth Strategol.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Mabwysiadwyd y Cylch
Gorchwyl.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro.
PENDERFYNIAD
Mabwysiadwyd Y Cylch Gorchwyl.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Rhaid i’r
Is-bwyllgor weithredu’r rheolau a’r gweithdrefnau hynny fel y’u mabwysiadir gan
y CBC ac a nodir yn y Cylch Gorchwyl - dyma’r pwerau sy’n cael eu dirprwyo i’r
Is-bwyllgor. Rhaid i unrhyw ddiwygiad i’r telerau hyn gael eu cymeradwyo gan y
CBC.
TRAFODAETH
Adroddwyd
y bu i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd sefydlu’r Is-bwyllgor Trafnidiaeth
Strategol i gyflawni’r swyddogaeth o ddatblygu a chynhyrchu Cynllun
Trafnidiaeth Rhanbarthol a pholisïau cysylltiedig.
Cadarnhawyd mai rôl yr Is-bwyllgor hwn yw datblygu
polisïau rhanbarthol ar y cyd gyda’r Awdurdodau Lleol a phartneriaid. Nodwyd
bod yr Is-bwyllgor hwn yn rhoi cyngor strategol i’r Cyd-bwyllgor wrth ddatblygu
a mabwysiadu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.
Tywyswyd
yr Aelodau drwy’r Cylch Gorchwyl gan gyfeirio at y ddeddfwriaeth berthnasol
megis Adran 109 Deddf Trafnidiaeth 2000, Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig
(Swyddogaethau Trafnidiaeth)(Cymru) a Rhan 5 Deddf Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru) 2021.
Eglurwyd bod naw prif agwedd o rôl yr Is-bwyllgor hwn,
gan fanylu ar y rolau creiddiol, sef:
· Gwneud argymhellion i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ar
gymeradwyo ac adolygu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a’i gyflwyno i
Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo.
· Gwneud
argymhellion i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ar bolisïau i’w gweithredu gan yr
awdurdodau trafnidiaeth leol yn ei ardal o Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.
· Cynghori a gwneud argymhellion ar wasanaeth trafnidiaeth
strategol integredig a chysylltiedig yn y Gogledd, drwy fonitro ac adolygu
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.
Pwysleisiwyd bod rôl yr Is-bwyllgor yn strategol ei
natur, gan ei fod yn cydlynu gweithgarwch Awdurdodau Lleol a phartneriaid
eraill fel y byddai dull rhanbarthol strategol yn ei le yn y maes polisi
perthnasol.
Nodwyd
bod gan yr Is-bwyllgor gyfrifoldebau i reoli prosiectau a rhaglenni. Esboniwyd
bydd y rôl hon yn cael ei gyflawni drwy gydlynu, cynllunio a datblygu’r
Rhaglenni prosiectau perthnasol a chyflwyno argymhellion i’r Cyd-bwyllgor
Corfforedig. Ymhelaethwyd ar y cyfrifoldeb i fonitro ac adolygu lefel a defnydd
adnoddau gan gynnwys staff, gan gyfeirio unrhyw argymhellion i’r Cyd-bwyllgor
Corfforedig.
Cyhoeddwyd
bydd yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol yn paratoi adroddiad chwarterol ar
ei waith i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig. Eglurwyd bod angen i’r adroddiadau hyn
gynnwys:
· Cynnydd ar weithredu’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol
yn cynnwys Rhaglenni a Phrosiectau unigol.
· Perfformiad
Ariannol y Pwyllgor
· Datblygiadau sydd ar y gweill