David Hole
(Rheolwr Rhaglen Gweithreedu y Cyd-bwyllgor Corfforedig)) i gyflwyno’r
adroddiad.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwyo’r Achos dros Newid
gan gynnwys y Cynllun Ymgysylltu a Rhanddeiliaid fel rhan o Gynllun
Trafnidiaeth Rhanbarthol y Gogledd yn amodol ar argymell i Fwrdd Cydbwyllgor
Corfforedig Y Gogledd eu bod yn gofyn i bob Cabinet priodol edrych ar y Cynllun
Trafnidiaeth Rhanbarthol yn fanylach ac ymateb yn ôl.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Reolwr Rhaglen Gweithredu'r Cyd-bwyllgor Corfforedig.
PENDERFYNWYD
Cymeradwyo’r Achos dros Newid gan gynnwys y Cynllun
Ymgysylltu a Rhanddeiliaid fel rhan o Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol y
Gogledd yn amodol ar argymell i Fwrdd Cydbwyllgor Corfforedig Y Gogledd eu bod
yn gofyn i bob Cabinet priodol edrych ar y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn
fanylach ac ymateb yn ôl.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Yn sgil Deddf Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru) 2021, mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd 2021
yn trosglwyddo'r swyddogaeth o ddatblygu polisïau trafnidiaeth mewn perthynas
ag ardal pob un o'i chynghorau cyfansoddol i'r CBC. Mae datblygu a gweithredu
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn swyddogaeth statudol a weithredir gan y CBC
drwy ei is-bwyllgor, gyda chefnogaeth y Canllawiau i Gyd-bwyllgorau Corfforedig
ar Gynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol (Fersiwn 2) 2023. Mae'r Achos dros Newid
gan gynnwys y Cynllun Ymgysylltu â Rhanddeiliaid yn rhan allweddol o'r broses o
ddatblygu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer rhanbarth y Gogledd.
TRAFODAETH
Atgoffwyd bod y Cynllun wedi cael i gyflwyno i’r Is-bwyllgor yng nghyfarfod
1 Hydref 2024. Diolchwyd am y gwaith cydweithio clos gyda Trafnidiaeth Cymru ac
ARUP i ddatblygu’r dogfennau.
Argymhellwyd bod Cyd-bwyllgor Corfforedig Y Gogledd eu
bod yn gofyn i bob Cabinet priodol edrych ar y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol
yn fanylach ac ymateb yn ôl.
7 CYFETHOL I'R IS-BWYLLGOR TRAFNIDIAETH STRATEGOL PDF 187 KB
I ystyrid
Aelodaeth yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol.
Penderfyniad:
·
Cyfethol Aelodau (heb
bleidlais) ar yr Is-bwyllgor i gefnogi ei swyddogaethau a’i gyfrifoldebau.
·
Gofyn i’r isod am gynrychiolydd
fel yr Aelodau Cyfethol:
o
Parc Cenedlaethol Eryri
(unigolyn sydd â chyfrifoldeb am y portffolio trafnidiaeth)
o
Trafnidiaeth Cymru ( unigolyn
sydd âchyfrfoldeb dros ranbarth y Gogledd)
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro.
PENDERFYNWYD
· Cyfethol Aelodau (heb bleidlais) ar yr Is-bwyllgor i
gefnogi ei swyddogaethau a’i gyfrifoldebau.
· Gofyn i’r isod am gynrychiolydd fel yr Aelodau
Cyfethol:
o
Parc
Cenedlaethol Eryri (unigolion sydd â chyfrifoldeb am y portffolio trafnidiaeth)
o
Trafnidiaeth
Cymru (unigolyn sydd â chyfrifoldeb dros ranbarth y Gogledd)
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Cryfhau Aelodaeth yr Is-bwyllgor drwy gynyddu ei aelodaeth i gynnwys
cynrychiolaeth Aelodau sydd â phrofiad a sgiliau penodol, ac arbenigedd ar
drafnidiaeth o safbwynt rhanbarthol a chenedlaethol.
TRAFODAETH
Adroddwyd bod Canllawiau Statudol yn nodi natur strategol i waith yr
Is-bwyllgor ac yn rhoi’r hawliau i ethol dau Aelod Cyfetholedig (heb bleidlais)
er mwyn eu cefnogi. Pwysleisiwyd bod y penderfyniad terfynol ar gyfethol
Aelodau hynny yn gyfrifoldeb i’r Cyd-bwyllgor corfforedig.
Eglurwyd bod yr
Aelodau Cyfetholedig yn cael eu penodi’n
Aelodau i gefnogi swyddogaeth y Cyd-bwyllgor yn hytrach na
chynrychioli unrhyw sefydliad neu gyflogwr. Cadarnhawyd bydd telerau cyfethol yn cael eu
nodi yn y cytundeb cyfethol a dim ond y swyddogaethau trafnidiaeth hynny sy’n cael
eu dirprwyo i’r Is-bwyllgor fydd yn berthnasol
iddynt.
Rhoddwyd arweiniad
ar y math a’r ystod o sefydliadau a fyddai’n cael eu cynrychioli
orau yn ogystal
â’r sgiliau a’r profiad a fyddai’n
fuddiol, gan nodi ei fod yn
benderfyniad i’r Aelodau os ydynt yn
awyddus i gyfethol dau Aelod
(di bleidlais) i’r Is-bwyllgor hwn.
Cefnogwyd yr
argymhelliad i gyfethol Aelodau (heb bleidlais). Cadarnhawyd y byddai’n gyfrifoldeb ar Barc Cenedlaethol Eryri a Thrafnidiaeth i Gymru i gadarnhau’r
unigolion addas i fynychu cyfarfodydd yr Is-bwyllgor.