8 CYNLLUN TRAFNIDIAETH RHANBARTHOL: DIWEDDARIAD CYNNYDD AC ARGYMHELLION PDF 223 KB
I gyflwyno
diweddariad ar y gwaith i ddatblygu’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
1. Argymhellwyd cyflwyno ‘Datganiad gweledigaeth Cynllun
Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru’, ‘Amcanion SMART’ ac ‘Themâu
trawsbynciol’ i CBC y Gogledd er mwyn eu mabwysiadu a’u cynnwys yn ‘Achos Dros
Newid y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol’ a ‘Chynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol
drafft Gogledd Cymru’.
2. Nodwyd prif ddyddiadau cerrig milltir ar gyfer cyflawni’r
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a chyfarwyddo gwaith pellach i gyflawni’r prif
gerrig milltir yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
3. Nodwyd Cynllun Ymgysylltu â Rhanddeiliaid drafft y mae’n
rhaid ei baratoi i gefnogi’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, ac i argymell
unrhyw ystyriaethau ychwanegol y dylid eu cynnwys.
4. Nodwyd bydd y swyddog arweiniol yn uwch swyddog â
chyfrifoldeb am drafnidiaeth ym mha bynnag Awdurdod a gynrychiolir trwy’r
Cadeirydd etholedig. Cadarnhawyd bydd y swyddog arweiniol hwn yn gweithredu fel
cyswllt rhwng y Grŵp Trafnidiaeth Ymgynghorol a’r Is-bwyllgor hwn.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Brif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd.
PENDERFYNWYD
1. Argymhellwyd cyflwyno ‘Datganiad gweledigaeth Cynllun
Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru’, ‘Amcanion SMART’ ac ‘Themâu
trawsbynciol’ i CBC y Gogledd er mwyn eu mabwysiadu a’u cynnwys yn ‘Achos Dros
Newid y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol’ a ‘Chynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol
drafft Gogledd Cymru’.
2. Nodwyd prif ddyddiadau cerrig milltir ar gyfer cyflawni’r
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a chyfarwyddo gwaith pellach i gyflawni’r prif
gerrig milltir yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
3. Nodwyd Cynllun Ymgysylltu â Rhanddeiliaid drafft y mae’n
rhaid ei baratoi i gefnogi’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, ac i argymell
unrhyw ystyriaethau ychwanegol y dylid eu cynnwys.
4. Nodwyd bydd y swyddog arweiniol yn uwch swyddog â
chyfrifoldeb am drafnidiaeth ym mha bynnag Awdurdod a gynrychiolir trwy’r
Cadeirydd etholedig. Cadarnhawyd bydd y swyddog arweiniol hwn yn gweithredu fel
cyswllt rhwng y Grŵp Trafnidiaeth Ymgynghorol a’r Is-bwyllgor hwn.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Mae’n ofynnol i
CBC y Gogledd gynhyrchu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh)
a Chynllun Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRP) yn unol â chanllawiau
Llywodraeth Cymru erbyn 31 Mawrth, 2025. Er mwyn cyflawni hyn, dylai’r
Is-bwyllgor Trafnidiaeth ystyried cydrannau datblygol y CTRh
drafft ac arwain y gwaith i gael ei gymeradwyo’n derfynol gan gynnwys cytuno ar
y camau a’r dogfennau gofynnol ar gyfer ymgynghori’n gyhoeddus.
Mae gwaith yn mynd
rhagddo gyda chefnogaeth ymgynghorwyr ARUP, sydd wedi creu map ffordd mewn
perthynas â chamau cyflenwi critigol, a fydd yn cael ei ddatblygu i sicrhau bod
materion yn cael sylw priodol drwy’r Is-bwyllgor ac yn cael eu cyfeirio at y
CBC mewn modd amserol er cymeradwyaeth.
TRAFODAETH
Cyhoeddwyd mai gweledigaeth y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer y
dyfodol yw ‘bydd gan Ogledd Cymru rwydwaith trafnidiaeth integredig ddiogel,
cynaliadwy, fforddiadwy, gwydn ac effeithiol sy’n cefnogi twf economaidd,
ffyniant a lles’. Ymhelaethwyd yr amcenir i gefnogi economi ffyniannus, gwella
cysylltedd, cyfoethogi ansawdd bywyd, gwella mynediad i wasanaethau, sefydlu
system drafnidiaeth fwy gwydn a lleihau’r ddibyniaeth ar geir preifat ac
hyrwyddo opsiynau teithio mwy ecogyfeillgar.
Ymhelaethwyd bod y Cynllun
yn pwysleisio’r angen i leihau
effaith amgylcheddol negyddol wrth annog
cynaladwyedd rhanbarthol a lliniaru newid hinsawdd. Eglurwyd y gobeithiai gyflawni hyn drwy flaenoriaethu
buddsoddiadau mewn trafnidiaeth gyhoeddus, seilwaith teithio llesol a chyflwyno atebion arloesol i heriau symudedd.
Eglurwyd bod 15 blaenoriaeth
wedi cael ei nodi ar gyfer y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn wreiddiol. Er hyn, mae cydweithio gyda Thrafnidiaeth i Gymru ac ARUP wedi arwain at ddatblygiad pedwar amcan SMART sy’n cwmpasu’r argymhellion gwreiddiol yn gliriach.
Cadarnhawyd mai’r pedwar amcan hynny
yw:
1.
Gwella cysyllted digidol a gwasanaethau lleol
2.
Gwell hygyrchedd a dewis
trafnidiaeth
3.
Galluogi datgarboneiddio
drwy bontio i fflyd allyriadau sero
4.
Galluogi twf economaidd
cynaliadwy.
Nodwyd hefyd bod pum thema wedi
cael eu hadnabod
i gyd-redeg gydag amcanion SMART. Manylwyd bod y rhain yn cynnwys ‘Gwerth
Cymdeithasol’, ‘Ecwiti’,
‘Bod dan arweiniad y Gymuned’,
‘Integreiddio’ a ‘Fforddiadwyedd’.
Tywyswyd yr Aelodau drwy’r amserlen i ddatblygu’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol gan ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8