9 CYNLLUN TRAFNIDIAETH RHANBARTHOL: ADRODDIAD CWMPASU ARFARNU LLES INTEGREDIG PDF 225 KB
I ddatblygu
Adroddiad Cwmpasu Arfarniad Lles Integredig.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Argymell bod yr Adroddiad
Cwmpasu Arfarniad Lles Integredig (IWBA) gan gynnwys ei Atodiadau’n cael eu
mabwysiadu gan yr Is-bwyllgor gan fod yn rhaid
eu paratoi i gefnogi’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Brif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd gyda chymorth
cynrychiolydd ARUP.
PENDERFYNWYD
Argymell bod yr Adroddiad Cwmpasu Arfarniad Lles
Integredig (IWBA) gan gynnwys ei Atodiadau’n cael eu mabwysiadu gan yr
Is-bwyllgor gan fod yn rhaid eu paratoi i gefnogi’r Cynllun Trafnidiaeth
Rhanbarthol.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Mae’n ofynnol i
CBC y Gogledd gynhyrchu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh)
a Chynllun Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol (CCTRh)
yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru erbyn 31 Mawrth, 2025. Mae ail elfen y CTRh yn cynnwys yr IBWA. Er mwyn cyflawni hyn, dylai’r
Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol ystyried datblygu cydrannau'r CTRh drafft ac arwain y gwaith i gael ei gymeradwyo’n
derfynol gan gynnwys cytuno ar y camau a’r dogfennau gofynnol ar gyfer
ymgynghori’n gyhoeddus.
Mae’r IWBA yn gam
hanfodol yng nghynllun map ffordd, sydd yn sicrhau bod materion yn cael sylw
priodol drwy’r Is-bwyllgor ac yn cael eu cyfeirio at y CBC mewn modd amserol er
cymeradwyaeth.
TRAFODAETH
Eglurwyd bod yr adroddiad technegol hwn wedi ei ddatblygu gan ARUP er mwyn
cyflwyno’r gwaith i ddatblygu Adroddiad Cwmpasu Arfarniad Lles Integredig
(IWBA).
Adroddwyd bod yr
IWBA yn gam allweddol o’r Cynllun Trafnidiaeth
Rhanbarthol ac yn edrych i weld sut
bydd y gallu ymgorffi llesiant ym mhob agwedd
ohono. Nodwyd bod ystyriaeth yn cael
ei roi i
strategaethau eraill er mwyn dangos bod egwyddorion datblygu cynaliadwy yn cael
eu defnyddio wrth ddiwallu gofynion
deddfwriaethol. Nodwyd bod rhai o’r ystyriaethau
perthnasol hyn yn cynnwys:
· Rheoliadau Asesu Amgylcheddol Cynlluniau a Rhaglenni (OS 2004/1656)
(Rheoliadau Asesu Amgylcheddol Strategol (SEA))
· Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
· Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau’r Gymraeg
· Asesiad Effaith
ar Hawliau Plant (CRIA), fel
sy’n ofynnol gan Fesur Hawliau
Plant a Phobl Ifanc (Cymru)
2011.
· Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy
(SMNR) A’R Polisi Adnoddau Naturiol (NRP) fel sy'n ofynnol
gan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
· Asesiad Rheoliadau
Cynefinoedd, fel sy’n ofynnol gan
Reoliadau Gwarchod Cynefinodd a Rhywogaethau 2017 fel y’u diwygiwyd
(a elwir yn
Rheoliadau Cynefinoedd
2017)
Cadarnhawyd
y bwriedir rhannu’r Adroddiad Cwmpasu gyda chyrff anstatudol,
gan gynnwys Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru, Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth
Cymru, er mwyn rhoi’r cyfle i gael
adborth wrth gynnal ymgynghoriad gyda chyrff statudol.
Nodwyd bod yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn yn cael
ei gynnal am gyfnod o 12 wythnos yn fuan yn
2025.