6 CYD-BWYLLGOR GwE - CYNLLUN ARCHWILIO MANWL 2024 PDF 665 KB
I gysidro’r Cynllun Archwilio a ddarparwyd gan Archwilio Cymru.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Derbyn a chymeradwyo Cynllun Archwilio Manwl Archwilio Cymru 2024
Cofnod:
Croesawyd Siwan Glyn (Archwilio Cymru)
i’r cyfarfod i gyflwyno’r adroddiad
Cyflwynwyd
adroddiad gan Swyddog Archwilio Cymru yn manylu ar y gwaith y mae Archwilio
Cymru yn bwriadu ei wneud i fynd i’r afael a’r risgiau archwilio i Gydbwyllgor
GwE 2024. Nodwyd y bydd archwiliad o’r datganiadau ariannol yn cael eu cwblhau ynghyd a gwaith archwilio perfformiad i asesu
sicrwydd a risg.
Yng nghyd-destun
perthnasedd datganiadau ariannol nodwyd y cyfrifir perthnasedd gan ddefnyddio
gwariant gros 2023-24 sef £17.8 miliwn a cyfeiriwyd at y risg sylweddol i
ddatganiadau archwilio ynghyd â’r risgiau archwilio. Ategwyd bod y risg
sylweddol o wrthwneud rheolaethau gan reolwyr yn un oedd yn cael ei gynnwys yng
nghynllun manwl pob Awdurdod. Nodwyd hefyd bod y risg archwilio o rwymedigaeth
net cronfa bensiwn hefyd wedi ei gynnwys mewn nifer o gynlluniau ac nid yn
benodol i GwE.
Atgoffwyd y Cydbwyllgor nad yw’r un
archwiliad yn gallu rhoi sicrwydd cyflawn bod y cyfrifon wedi’u datgan yn gywir
a bod yr archwilwyr yn gweithio i lefel faterol. Tynnwyd sylw at y ffioedd, oedd wedi cynyddu
eleni o ganlyniad i chwyddiant a nodwyd na fydd Archwilio Cymru yn gwneud dim
elw o’r gwaith.
Diolchwyd i
Swyddogion Cyllid Cyngor Gwynedd am eu cefnogaeth a’r cydweithio da.
Cynigiwyd ac
eiliwyd cymeradwyo’r Cynllun
PENDERFYNWYD:
Derbyn a chymeradwyo Cynllun Archwilio
Manwl Archwilio Cymru 2024