8 DATGANIAD LLYWODRAETHU AR GYFER CYD-BWYLLGOR GwE PDF 143 KB
Derbyn a
chymeradwyo y Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2023/24.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Derbyn a chymeradwyo'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2023/24.
Cofnod:
Cyflwynwyd y
Datganiad Llywodraethu gan Euros Davies (Pennaeth Gwasanaeth GwE – Gwella
Ysgolion). Adroddwyd bod Rheoliadau Cyfrifo ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2018
yn gosod gofynion penodol ar gyrff cyhoeddus sydd yn gweithredu trefniadau
rheoli partneriaethol trwy gyd-bwyllgorau
ffurfiol. Ategwyd mai gofyniad Rhan 5
o’r Rheoliadau hynny yw i’r Cydbwyllgor adolygu a chymeradwyo Datganiad
Rheolaeth fewnol yn flynyddol fyddai’n cynnig fframwaith i weithrediad y
Cydbwyllgor. Cyfeiriwyd at y saith egwyddor llywodraethu
sydd yn cael eu mesur gan adrodd nad oedd unrhyw faterion yn cael ei ystyried yn
fater llywodraethu arwyddocaol ac ni adnabuwyd Materion Llywodraethu yn
2023/24. Ategwyd bod y trefniadau llywodraethu yn cynnig sicrwydd cryf bod
trefniadau llywodraethu GwE yn gweithio'n dda.
Diolchwyd am yr adroddiad. Gwnaed sylw
bod y Datganiad eisoes wedi cael ei ddilysu gan y Bwrdd Rheoli a fod y Bwrdd yn
monitro materion yn ymwneud â llywodraethu yn barhaus ac felly cynigwyd ac
eiliwyd cymeradwyo’r Datganiad.
PENDERFYNWYD:
Derbyn a chymeradwyo'r Datganiad
Llywodraethu Blynyddol 2023/24