Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 02/10/2024 - Cyd-Bwyllgor GwE (eitem 9)

9 CYLLIDEB GwE 2024/25: ADOLYGIAD HYD AT DDIWEDD AWST 2024 pdf eicon PDF 150 KB

Diweddaru aelodau’r Cyd-bwyllgor ar yr adolygiad ariannol diweddaraf o gyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2024/25.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

·        Derbyn a chymeradwyo'r adroddiad.

·        Bod cyfarfod yn cael ei gynnal rhwng aelodau’r Cydbwyllgor a’r Bwrdd Trosiannol i rannu gwybodaeth a manylion ychwanegol e.e. costau staff, costau ailstrwythuro

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Pennaeth Cyllid Cynorthwyol Cyngor Gwynedd oedd yn egluro bod yr adroddiad yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw GwE am 2024/25, a’r rhagolygon tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Eglurwyd bod yr  adolygiad yn seiliedig ar wybodaeth diwedd Awst 2024 ac felly’n adlewyrchu’r sefyllfa ddiweddaraf ac y daw’r darlun yn gliriach wrth i’r misoedd fynd yn eu blaen.

 

Cyfeiriwyd at dalfyriad o’r sefyllfa derfynol gan nodi bod y rhagolygon yn awgrymu y bydd y sefyllfa fwy neu lai yn un cytbwys, gyda rhagolygon o danwariant o oddeutu (£5 mil) erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Tynnwyd sylw at y prif faterion:

 

Gweithwyr – gorwariant o £46 mil. Cafodd cyllideb GwE ar gyfer y flwyddyn gyfredol ei sefydlu yn seiliedig ar nifer y staff yn Chwefror 2024. Eglurwyd bod arbediad wedi ei wireddu wedi i rai o aelodau staff GwE adael eu swyddi, gyda’r rhan fwyaf o’r ymadawiadau wedi digwydd yn ystod y flwyddyn academaidd. Mae’r ffigyrau hefyd wedi ymgorffori penderfyniad y Cydbwyllgor ar y 1af Awst, i ailstrwythuro’r Uwch Dîm Reoli.

 

Rhent - gorwariant £10 mil - hyn yn unol â’r tueddiad hanesyddol. Rhagwelir y bydd GwE yn gorwario eto eleni a hynny o ganlyniad i GwE yn rhentu gofod mwy o faint yn swyddfa Caernarfon.

 

Cludiant – y darlun yn parhau i fod yn gyson gydag adolygiadau blaenorol gyda tanwariant o £41 mil ar y pennawd yma oherwydd bod costau teithio wedi lleihau o ganlyniad i ffyrdd newydd o weithio’n rhithiol a ddatblygwyd ers cyfnod covid.

 

Cyflenwadau a Gwasanaethau -  rhagwelir tanwariant o bron i £20 mil ar y pennawd yma.

 

Amlygwyd bod cronfa agoriadol o £221 o filoedd, ac y bydd y gronfa yn tyfu i £226 o filoedd yn dilyn ychwanegu’r tanwariant. Bydd adolygiad diwedd Hydref yn cael ei gyflwyno i gyfarfod mis Tachwedd o’r Cydbwyllgor.

 

Argymhellwyd i’r Cydbwyllgor dderbyn yr adroddiad adolygiad diwedd Awst 2024 o’r Gyllideb Refeniw.

 

         Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a pham y gwelir gorwariant o dan y pennawd ‘Gweithwyr’ a hynny o ystyried bod 17 aelod o staff eisoes wedi ymadael, nodwyd eto y byddai’r darlun yn dod yn gliriach yn y misoedd nesaf gyda'r gyllideb yn debygol o arwain at dan-wariant bychan. Mewn ymateb i gwestiwn ategol os oedd y cyfanswm yn cynnwys costau ailstrwythuro a darpariaeth cost, nodwyd bod hyn wedi ei ystyried.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau;

·        Er yn derbyn bod y gyllideb mwy neu lai ar darged, bod angen gwell dealltwriaeth o gostau staff, costau ailstrwythuro, hawliau gwyliau a’r goblygiadau ariannol sydd i hyn

·        Bod angen adroddiad ychwanegol gyda mwy o wybodaeth i ddeall y darlun yn llawn

·        Ciplun sydd ymabydd yn newid gyda threfniadau ailstrwythuro

 

PENDERFYNWYD:

·        Derbyn a chymeradwyo'r adroddiad.

·        Bod cyfarfod yn cael ei gynnal rhwng aelodau’r Cydbwyllgor a’r Bwrdd Trosiannol i rannu gwybodaeth a manylion ychwanegol e.e. costau staff, costau ailstrwythuro