Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 15/10/2024 - Y Cabinet (eitem 12.)

12. CYLLIDEB REFENIW 2024/25 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST 2024 pdf eicon PDF 625 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Paul Rowlinson

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gan nodi bod rhagolygon o orwariant o £7.6 miliwn gan adrannau’r Cyngor, derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2024 o’r gyllideb refeniw, a chefnogwyd y camau mae’r Prif Weithredwr wedi eu cyflwyno i ymdrin â’r gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Plant a Theuluoedd, Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC a’r Adran Amgylchedd. 

 

Cymeradwywyd trosglwyddiad o £1,868k o danwariant ar gyllidebau corfforaethol i Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol y Cyngor.