5 COFRESTR RHODDION A LLETYGARWCH PDF 124 KB
Cyflwyno
adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Nodi a
derbyn cynnwys yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd
- adroddiad gan y Swyddog Monitro yn manylu ar y Gofrestr Rhoddion a
Lletygarwch ac yn gwahodd sylwadau’r pwyllgor fel rhan o’r gwaith monitro
safonau o fewn y Cyngor.
Nododd
y Swyddog Monitro fod gofyn i aelodau gofrestru unrhyw gynnig o rodd neu
letygarwch sydd werth dros £25.
Atgoffwyd bod y cod ymddygiad yn nodi’n glir bod unrhyw rodd sydd yn rhoi
aelodau mewn sefyllfa amhriodol, beth bynnag ei werth, yn amhriodol.
Cyfeiriwyd
at ran 7.2 o’r adroddiad ble nodwyd bod pob cynnig a gofrestrwyd hyd yma yn
fynegiant o ddiolch am gymorth aelod lleol (nid aelod o’r Pwyllgor Cynllunio)
gyda chais cynllunio penodol.
Diolchodd
y Cadeirydd i’r Swyddog Monitro am gadarnhau nad oedd yr adroddiad yn cyfeirio
at aelodau’r Pwyllgor Cynllunio.