ARWEINYDD Y CYNGOR
Penodi Arweinydd
y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penodi’r Cynghorydd Nia Jeffreys yn Arweinydd y Cyngor am
dymor y Cyngor.
Cofnod:
Cynigiwyd ac eiliwyd i benodi’r Cynghorydd Nia
Jeffreys yn Arweinydd y Cyngor am dymor y Cyngor.
Nododd aelod fod ganddo ddau gwestiwn ar bwynt
o drefn ynglŷn â’r enwebiad. Mewn
ymateb, nododd y Swyddog Monitro y byddai’n cynghori bod y Cyngor yn cwblhau’r
broses o wahodd enwebiadau ar gyfer y broses o benodi Arweinydd yn gyntaf.
Cynigiodd yr aelod i benodi’r Cynghorydd Beca
Brown yn Arweinydd y Cyngor am dymor y Cyngor.
Eiliwyd y cynnig.
Ni dderbyniwyd unrhyw enwebiadau pellach.
Gofynnodd yr aelod am eglurder ar y ddau fater
o drefn, sef:-
·
Er nad yw’n arferol i
gael trafodaeth yn y Cyngor ar y mater o benodi Arweinydd, na welid bod yna
unrhyw beth yn y Cyfansoddiad sy’n rhwystro’r Cyngor rhag trafod y mater. Oedd modd felly i’r Cyngor gael trafodaeth ar
hyn?
·
Sawl enwebiad y gall un
aelod ei wneud?
Mewn ymateb i’r cwestiynau hyn, nododd y
Swyddog Monitro:-
·
Mai’r cynnig gerbron oedd
i benodi unigolyn yn Arweinydd y Cyngor, ac nid y broses ayb, ac er nad oedd
yna unrhyw beth yn y Cyfansoddiad yn atal y Cyngor rhag cynnal trafodaeth, nid
oedd hynny’n arferol, a byddai’n rhaid ystyried yn ddwys beth fyddai cyd-destun
unrhyw drafodaeth.
·
Cyn belled ag y bo trefniadau’r
Cyngor yn y cwestiwn, bod yna ddau gynnig priodol gerbron. Nid oedd yn amlwg felly beth oedd arwyddocâd
y cwestiwn ynglŷn ag enwebiadau gan fod y Cyngor yn delio â chynigion,
waeth beth ydi’r cefndir i’r cynigion hynny.
Nododd yr aelod ymhellach fod 4 aelod o’r
Cabinet, sef y Cynghorwyr Beca Brown, Dafydd Meurig, Berwyn Parry Jones ac Elin
Walker Jones, wedi ymddiswyddo’n ddiweddar ar fater egwyddorol a bod y
cyn-Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, hefyd wedi gwneud y peth
anrhydeddus, ac wedi ymddiswyddo. Fodd
bynnag, nid oedd yn glir ble roedd gweddill aelodau’r Cabinet presennol, gan
gynnwys y Dirprwy Arweinydd, yn sefyll ar y mater cynhennus o ymddiheuro i
ddioddefwyr Foden a chynnal ymchwiliad cyhoeddus i’r mater. Gan hynny, os nad oedd y Cynghorydd Beca
Brown yn fodlon rhoi ei henw ymlaen i fod yn Arweinydd y Cyngor, byddai’n galw
ar y Cynghorydd Dafydd Meurig i wneud hynny, ac yn y blaen.
Nododd y Cynghorydd Beca Brown nad oedd yn
dymuno i’w henw fynd ymlaen.
Gyda chydsyniad yr eilydd, tynnodd yr aelod ei
gynnig yn ôl gan nodi ei fod am gynnig penodi’r Cynghorydd Dafydd Meurig yn
Arweinydd y Cyngor am dymor y Cyngor.
Nododd y Cadeirydd na allai aelod gyflwyno mwy
nag un cynnig.
PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Nia Jeffreys yn
Arweinydd y Cyngor am dymor y Cyngor.
Rhoddodd yr Arweinydd anerchiad byr gan bwysleisio ei bod hi, a phawb o’r aelodau, yn cyd-sefyll gyda dioddefwyr Foden. Nododd y dymunai anfon neges at y dioddefwyr hynny yn datgan ei bod yn ymddiheuro o waelod ei chalon am yr hyn a ddigwyddodd iddynt, ac yn addo troi pob carreg i atal sefyllfa o’r fath rhag digwydd eto. Nododd hefyd ei bod, ar ran pob aelod o Grŵp Plaid Cymru, yn galw eto ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7