Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 05/12/2024 - Y Cyngor (eitem 9.)

9. CYNLLUN GOSTYNGIADAU TRETH CYNGOR 2025-26 pdf eicon PDF 199 KB

Cyflwyno adroddiad y Aelod Cabinet Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1.         Bod Cynllun Lleol Cyngor Gwynedd am y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill 2025 yn parhau fel ag yr oedd yn ystod 2024/25.  Felly, bydd yr amodau canlynol (a – c isod) ynghylch yr elfennau disgresiwn yn parhau:

a)    Gweithredu diystyrwch o 100% i bensiynau anabledd rhyfel, a phensiynau gweddwon rhyfel, ar gyfer pensiynwyr a hawlwyr oed gweithio fel ei gilydd.

b)    Peidio cynyddu’r cyfnodau estynedig o ostyngiadau i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r pedair wythnos safonol sy’n y Cynllun Rhagnodedig.

c)    Peidio cynyddu’r cyfnod ôl-ddyddio i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r tri mis safonol sydd wedi’i nodi ar hyn o bryd yn y Cynllun Rhagnodedig.

2.   Lle’n briodol, dirprwyo’r grym i’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet dros Gyllid, i wneud mân addasiadau i’r cynllun am 2025/26, ar yr amod na fydd yn newid sylwedd y cynllun.