Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 26/11/2024 - Y Cabinet (eitem 7)

7 ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS DAI AC EIDDO pdf eicon PDF 18 MB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Craig ab Iago.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan gadarnhau bod argyfwng tai yn parhau yng Ngwynedd ac yn genedlaethol.

 

Ymfalchïwyd mai Cyngor Gwynedd yw’r unig awdurdod yng Nghymru sydd wedi lleihau niferoedd digartrefedd a chostau llety argyfwng gwely a brecwast eleni. Adroddwyd bod hyn yn cadarnhau polisïau a gweithdrefnau cadarn yr Adran. Ymhelaethwyd bod yr Adran wedi cynnal ‘Wythnos Ymwybyddiaeth Ddigartrefedd’ yn ddiweddar er mwyn addysgu a thynnu sylw am y pwnc hwn, gan nodi bod yr ymateb i’r ymgyrch wedi bod yn gadarnhaol.

 

Mynegwyd balchder bod Dôl Sadler, safle unedau llety gyda chefnogaeth i unigolion digartref, lleoliad cyntaf o gynllun ehangach yng Ngwynedd, wedi cyrraedd rhestr fer gwobr ‘Best Supported Housing Development: Rural/Suburban’ gan Inside Housing yn ddiweddar. Roedd cannoedd o enwebiadau wedi cael ei gyflwyno ar gyfer y wobr ac roedd yr Adran yn falch iawn o gyrraedd y rhestr fer.

 

Ymhelaethwyd bod prosiectau eraill ar y gweill i fynd i’r afael a’r argyfwng digartrefedd, megis 137 Stryd Fawr, Bangor. Cadarnhawyd bod y prosiect hwn yn esiampl dda o’r gefnogaeth sydd ar gael i unrhyw un sydd yn profi digartrefedd a gobeithir cael mwy o leoliadau tebyg i’r dyfodol.

 

Cadarnhawyd bod dros 317 o dai cymdeithasol bellach wedi cael eu hadeiladu ers dechrau’r Cynllun Gweithredu Tai presennol. Ymhelaethwyd bod hyn wedi bod yn gymorth i gartrefu 840 o drigolion Gwynedd. Adroddwyd bod dros 220 o dai ar y gweill dros y flwyddyn nesaf.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·       Tynnwyd sylw bod y ffigyrau o ddarparu gwasanaeth Teleofal wedi gostwng yn ddiweddar a gofynnwyd a oes cyfle yn codi i gydweithio’n fwy effeithiol gyda’r tîm sydd yn darparu’r gwasanaeth.

o   Mewn ymateb i’r sylw, cydnabuwyd bod y ffigyrau hyn wedi gostwng yn ddiweddar oherwydd bod swyddogion yn datblygu fersiwn digidol o’r gwasanaeth yn hytrach nag analog. Oherwydd hyn, nodwyd bod angen iddynt ymweld â phob tŷ sydd yn defnyddio’r gwasanaeth er mwyn ei uwchraddio. Cydnabuwyd bod hyn wedi rhoi llwyth gwaith ychwanegol ar y gwasanaeth ac wedi arwain at gwymp mewn niferoedd sydd yn derbyn cefnogaeth Teleofal am y tro cyntaf. Cadarnhawyd bod y gwaith hwn yn mynd yn ei flaen yn dda a gobeithir bydd pob defnyddiwr y gwasanaeth gyda’r fersiwn digidol erbyn diwedd Mawrth 2025.

·       Cadarnhawyd bod y broses Craffu yn bwysig iawn i weithrediad y Cyngor, gan nodi bod yr Adran wedi derbyn adborth cadarnhaol am y Cynllun Gweithredu Tai gan y Pwyllgor Craffu Gofal.

o   Ymhelaethwyd bod yr Adran hefyd wedi bod yn mynychu Pwyllgor Craffu Gofal ar gyfer trafod y Polisi Gosod a materion eraill gan nodi eu bod yn sesiynau adeiladol iawn. Ychwanegwyd bod sesiwn Craffu diweddar wedi cael ei gynnal gyda’r Adran a chynrychiolwyr o’r Asiantaethau Tai a'i fod yn gyfle gwerthfawr iawn i rannu llawer o wybodaeth.

·       Cyfeiriwyd at y Pecynnau cefnogaeth sydd ar gael i landlordiaid preifat fel rhan o Gynllun Lesu Cymru, gan apelio at landlordiaid Meirionnydd i ddod i gyswllt  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7

Awdur: Carys Fon Williams, Pennaeth Tai ac Eiddo