Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 26/11/2024 - Y Cabinet (eitem 10)

10 ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS OEDOLION, IECHYD A LLESIANT pdf eicon PDF 339 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan ddiolch i holl weithwyr gofal sydd yn gweithio i gefnogi pobl fregus drwy gydol y flwyddyn ac yn enwedig yng nghanol y tywydd garw diweddar.

 

Cadarnhawyd bod y gwaith o uwchraddio cartrefi gofal yn y Bermo a Dolgellau. Yn yr un modd, ymfalchïwyd bod y gwaith yn Hafod Mawddach. Cadarnhawyd bod gwaith yn mynd rhagddo er mwyn canfod unigolion addas i ddefnyddio’r offer sydd ar gael yn y Bermo a Hafod Mawddach ar hyn o bryd. Mynegwyd balchder bod y gofal Dementia arbenigol angenrheidiol bellach ar gael i ddioddefwyr yn Hafod Mawddach yn dilyn cyfnod heriol.

 

Cydnabuwyd bod gallu’r Cyngor i weithredu fel landlord yn Nhŷ Meurig, sydd yn darparu llety i unigolion sydd yn derbyn cefnogaeth yr Adran, wedi bod yn heriol yn y gorffennol. Er hyn, cadarnhawyd bod y Cyngor wedi derbyn cadarnhad bod modd gweithredu fel landlord a darparu tenantiaeth gan sicrhau mwy o reolaeth dros y ddarpariaeth i ddatblygiadau cyffelyb. Ymhelaethwyd bod yr Adran wedi cydweithio gyda’r Adran Tai ac Eiddo er mwyn dylunio’r adeilad yn y gobaith o dderbyn caniatâd cynllunio pan yn amserol.

 

Eglurwyd bod llithriad bychan yn yr amserlen ar gyfer datblygu tŷ a chefnogaeth ble roedd bwriad iddo fod yn barod erbyn diwedd y flwyddyn ariannol bresennol. Fydd bynnag, cadarnhawyd bod yr Adran yn ymdrechu i sicrhau bod y tŷ hwn ym Mhwllheli yn barod cyn Haf 2025. Ymhelaethwyd bod ail dŷ, ym Mhenrhyndeudraeth yn debygol o fod yn barod erbyn gwanwyn 2025.

 

Adroddwyd bod y gwaith tendro ar gyfer datblygu Canolfan Dolfeurig wedi cael ei gynnal yn ddiweddar ond bod y cynigion a ddaeth i law yn sylweddol uwch na’r arian a ymrwymwyd o fewn Cynllun y Cyngor. Ymhelaethwyd bod yr adran wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru am y posibilrwydd o ariannu’r bwlch yng nghostau’r cynllun a phwysleisiwyd bydd penderfyniad yn cael ei gyhoeddi’n fuan iawn, er mwyn gallu cychwyn ar ddatblygu’r safle.

 

Ymfalchïwyd bod Cydlynydd Llwybr Gyrfa Anabledd Dysgu wedi cael ei phenodi ac mae gwaith o hyrwyddo cyfleoedd gwaith a chefnogi unigolion i waith cyflogedig yn mynd rhagddo.

 

Eglurwyd bod y canran o oriau gofal cartref sydd heb eu diwallu ar ei isaf ers blwyddyn, gyda 84 o unigolion yn aros am ofal cartref. Pwysleisiwyd bod yr Adran yn cynnal trafodaeth gyda phartneriaid yn genedlaethol er mwyn sicrhau bod llai o bobl yn gorfod aros am wasanaeth gofal cartref yn y dyfodol.

 

Tynnwyd sylw at y Gwasanaeth Pobl Hŷn, Anableddau Corfforol a Synhwyraidd gan gydnabod bod rhestr aros ar gyfer derbyn asesiad gofal yn parhau i gynyddu. Esboniwyd bod yr her fwyaf yn ymwneud â diffyg capasiti therapyddion galwedigaethol. Pwysleisiwyd bod yr Adran yn ymwybodol ar yr heriau hyn gan geisio sicrhau bod adnoddau a swyddogion yn cael eu targedu’n effeithiol er mwyn datrys rhai o’r problemau sy’n codi.

 

Nodwyd bod cynnydd i’w weld yn y canran o oedolion sy’n derbyn taliadau uniongyrchol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10

Awdur: Aled Davies, Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant