Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Huw Rowlands
Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Huw Rowlands yn cynnig fel a ganlyn:-
1. Gofynna Cyngor Gwynedd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddyrannu cyfran deg o’r
gwariant ar reilffordd HS2
yn Lloegr i Gymru.
2. Gofynnir
hefyd i Lywodraeth
Cymru barhau i ddwyn pwysau ar Lywodraeth y Deyrnas unedig er mwyn sicrhau hyn.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
1.
Gofynna Cyngor Gwynedd i
Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddyrannu cyfran deg o’r gwariant ar reilffordd HS2
yn Lloegr i Gymru.
2.
Gofynnir hefyd i Lywodraeth Cymru barhau i ddwyn
pwysau ar Lywodraeth y Deyrnas unedig er mwyn sicrhau hyn.
Cofnod:
Cyflwynwyd y rhybudd o
gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Huw Rowlands o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad,
ac fe’i eiliwyd:-
·
Gofynna Cyngor Gwynedd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddyrannu cyfran deg o’r gwariant
ar reilffordd HS2 yn Lloegr
i Gymru.
·
Gofynnir hefyd i Lywodraeth
Cymru barhau i ddwyn pwysau ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau hyn.
Gosododd yr aelod
y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:-
·
Bod y cynnig yn ymwneud â’r annhegwch di-ddadl, sef
nad yw Cymru yn cael unrhyw arian canlyniadol yn dilyn adeiladu rheilffordd
HS2, a bod Cymru unwaith eto yn cael ei thrin yn is-raddol i’r Alban a Gogledd
Iwerddon.
·
Mai dadl Llywodraeth San Steffan yw bod Cymru’n
cael budd o HS2, er nad yw’r llinell bellach yn mynd i Crewe
hyd yn oed. Mae’r ddadl honno yn
seiliedig ar y ffaith nad yw’r seilwaith rheilffyrdd wedi ei ddatganoli i
Gymru, sy’n ddadl afresymol, a chredir bod y sefyllfa yn hollol anghyfiawn, ac
yn sefyllfa na fyddai’r Alban na Gogledd Iwerddon yn ei derbyn.
·
Ein bod yn cael ein sathru a’n sarhau gan
Lywodraeth San Steffan a’n trin yn israddol i rannau eraill y Deyrnas Gyfunol,
nid yn unig yng nghyd-destun HS2, ond hefyd oherwydd diffyg cyllido cyffredinol
a diffyg datganoli pwerau penodol i Gymru.
Cefnogwyd y cynnig
a nodwyd y gallai’r £4bn o gyllid rheilffyrdd sy’n ddyledus i Gymru fod wedi’i
fuddsoddi ar gyfer dechrau ail-adeiladu rhai o’n rhwydweithiau, megis
rheilffordd Afon Wen.
PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r cynnig, sef:-
·
Gofynna Cyngor Gwynedd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddyrannu cyfran deg o’r gwariant
ar reilffordd HS2 yn Lloegr
i Gymru.
·
Gofynnir hefyd i Lywodraeth
Cymru barhau i ddwyn pwysau ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau hyn.