Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd June Jones
Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd June Jones yn cynnig
fel a ganlyn:-
Yn sgil y ddamwain erchyll fu ar lôn yr
A4085 ger pentref Garreg, Llanfrothen mis Tachwedd 2023 lle bu i bedwar o
hogiau ifanc golli eu bywydau, bod Cyngor Gwynedd yn gyrru at Adran
Trafnidiaeth Llywodraeth San Steffan yn gofyn iddynt edrych ar diweddaru’r
rheolau i gael trwydded graddedig (graduated driving license) lle na all
gyrwyr ifanc gario eu cyfoedion ifanc eraill heb bod iddynt wedi cael chwe mis
o brofiad gyrru ar ol pasio eu prawf.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Yn sgil y ddamwain erchyll fu ar lôn yr
A4085 ger pentref Garreg, Llanfrothen mis Tachwedd 2023 lle bu i bedwar o
hogiau ifanc golli eu bywydau, bod Cyngor Gwynedd yn gyrru at Adran
Trafnidiaeth Llywodraeth San Steffan yn gofyn iddynt edrych ar ddiweddaru’r
rheolau i gael trwydded graddedig (graduated driving license) lle na all gyrwyr
ifanc gario eu cyfoedion ifanc eraill heb bod iddynt wedi cael chwe mis o
brofiad gyrru ar ôl pasio eu prawf.
Cofnod:
Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y
Cynghorydd June Jones o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-
Yn sgil y ddamwain
erchyll fu ar lôn yr A4085 ger pentref Garreg, Llanfrothen mis Tachwedd 2023
lle bu i bedwar o hogiau ifanc golli eu bywydau, bod Cyngor Gwynedd yn gyrru at
Adran Trafnidiaeth Llywodraeth San Steffan yn gofyn iddynt edrych ar
ddiweddaru’r rheolau i gael trwydded graddedig (graduated
driving license) lle na all
gyrwyr ifanc gario eu cyfoedion ifanc eraill heb bod iddynt wedi cael chwe mis
o brofiad gyrru ar ôl pasio eu prawf.
Gosododd yr aelod
y cyd-destun i’w chynnig, gan nodi bod arolwg a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn
nodi bod yna fwy o ddamweiniau ffordd yn digwydd yn ardaloedd gwledig Cymru nag
mewn unrhyw ran arall o’r DU.
Cefnogwyd y cynnig
a nodwyd bod cyflwyno trwydded graddedig ar gyfer gyrru beiciau modur 30
mlynedd yn ôl wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’r ystadegau.
PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r cynnig, sef:-
Yn sgil y ddamwain
erchyll fu ar lôn yr A4085 ger pentref Garreg, Llanfrothen mis Tachwedd 2023
lle bu i bedwar o hogiau ifanc golli eu bywydau, bod Cyngor Gwynedd yn gyrru at
Adran Trafnidiaeth Llywodraeth San Steffan yn gofyn iddynt edrych ar ddiweddaru’r
rheolau i gael trwydded graddedig (graduated driving license) lle na all
gyrwyr ifanc gario eu cyfoedion ifanc eraill heb bod iddynt wedi cael chwe mis
o brofiad gyrru ar ôl pasio eu prawf.