Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 05/12/2024 - Y Cyngor (eitem 13)

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Rhys Tudur

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Rhys Tudur yn cynnig fel a ganlyn:-

O ystyried

-        Bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymgynghoriad ar amrywio Treth Trafodion Tir

-        Y byddai amrywio’r dreth yn rhoi’r cyfle i’r Cyngor daclo’r gyfradd y prynir ail dai yn effeithiol

-        Y byddai amrywio’r dreth yn agor y drws i’r Cyngor hwn bwyso ar y Llywodraeth i roi ei siâr theg o’r refeniw sy’n deillio o dreth tir

Mae’r Cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o rôl i Wynedd fedru penderfynu ar amrywiaethau ar gyfer Treth Trafodion Tir.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Rhys Tudur o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

O ystyried

-           Bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymgynghoriad ar amrywio Treth Trafodion Tir

-           Y byddai amrywio’r dreth yn rhoi’r cyfle i’r Cyngor daclo’r gyfradd y prynir ail dai yn effeithiol

-           Y byddai amrywio’r dreth yn agor y drws i’r Cyngor hwn bwyso ar y Llywodraeth i roi ei siâr theg o’r refeniw sy’n deillio o dreth tir

Mae’r Cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o rôl i Wynedd fedru penderfynu ar amrywiaethau ar gyfer Treth Trafodion Tir.

https://ssl.gstatic.com/ui/v1/icons/mail/images/cleardot.gifGosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:-

·         Mai’r Dreth Trafodion Tir yw’r arf mwyaf grymus sydd gennym i daclo’r broblem tai haf a rheoli gwerthiannau ail dai yn effeithiol dros amser, a hynny heb esgor ar sgil-effeithiau cynddrwg ag a geir gyda theclynnau trethiannol eraill, megis y Premiwm Treth Cyngor.

·         Bod Llywodraeth Cymru yn ystyried ymarfer mwy o bwerau i amrywio’r Dreth Trafodion Tir fel ei fod yn uwch fyth ar ail dai, gan hefyd ddatganoli rhywfaint o rymoedd i’r cynghorau amrywio’r Dreth Trafodion Tir ar ail dai o fewn eu siroedd.

·         Bod y cynnig yn gofyn i’r Llywodraeth roi mwy o rôl i Gyngor Gwynedd fedru penderfynu ar amrywiaethau ar gyfer Treth Trafodion Tir ar ail dai, gan mai yng Ngwynedd mae’r nifer uchaf o ail dai yng Nghymru.

·         Mai yma yng Ngwynedd mae’r refeniw uchaf yn cael ei godi o Dreth Tir ar ail dai drwy Gymru gyfan, ond yn hytrach na dod yn ôl i ni, mae'r arian yn mynd i’r Llywodraeth yn ganolog ar hyn o bryd.  Gan hynny, gobeithid y byddai amrywio’r dreth yn agor y drws i’r Cyngor gael siâr deg o’r refeniw sy’n deillio o Dreth Tir i helpu i lenwi’r bwlch ariannol sy’n wynebu’r Cyngor.

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:-