Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 06/12/2024 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (eitem 7)

7 CAIS AM NEWID Y PROSIECT CYN YSBYTY GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 235 KB

David Mathews (Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

·         Cytuno mewn egwyddor i’r cais am newid i dderbynnydd y grant ar gyfer prosiect Cyn-Ysbyty Gogledd Cymru

·         Dirprwyo’r hawl i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, Is-gadeirydd, Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gytuno ar fanylion y cais am newid, gan gynnwys unrhyw welliannau pellach y gallai fod eu hangen i’w cwblhau ac ymrywymo i’r Cytundeb Ariannu Grant.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr y Rhaglen Tir ac Eiddo.

 

PENDERFYNWYD

 

·       Cytuno mewn egwyddor i’r cais am newid i dderbynnydd y grant ar gyfer prosiect Cyn-Ysbyty Gogledd Cymru

·       Dirprwyo’r hawl i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, Is-gadeirydd, Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gytuno ar fanylion y cais am newid, gan gynnwys unrhyw welliannau pellach y gallai fod eu hangen i’w cwblhau ac ymrywymo i’r Cytundeb Ariannu Grant.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Cafodd yr Achos Fusnes llawn ei pharatoi ar ran Jones Bros Ruthin (Civil Engineering) Co, Ltd a’i gymeradwyo gan y Bwrdd ar 17 Mai 2024.

 

Roedd yr Achos Fusnes Llawn yn nodi mai ‘Jones Bros Ruthin (Civil Engineering) Co, Ltd fyddai yn cytundebu’r prosiect drwy ei gwmni daliannol - Jones Bros Ruthin Development Holdings Ltd’.

 

Nodwyd y trafodaethau cychwynnol nad oedd Jones Bros Ruthin (Civil Engineering) Co Ltd i fod yn barti i unrhyw ddogfennau cytundebol oedd yn ymwneud a’r prosiect. O ganlyniad, cyflwynwyd NWH Ltd gan Jones Bros Ruthin (Civil Engineering) Co. Ltd fel derbynnydd newydd y grant a Chyfrwng at Ddibenion Arbennig (SPV) ar gyfer y prosiect gyda chwmni Jones Bros Ruthin Development Holdings Ltd yn gweithredu fel gwarantwr.

 

TRAFODAETH

 

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro bod yr addasiad hwn yn dechnegol iawn gan ei fod yn deillio o sut mae cwmnïau yn cael eu strwythuro. Pwysleisiwyd bod y risgiau sy’n codi wrth newid cwmni mewn cytundeb o’r math hwn yn cael ei cyfarch yn gyflawn drwy’r ffaith bod y gwarantwr yn gwmni priodol a sylweddol. Eglurwyd bod caniatáu’r newid hwn yn caniatáu i’r prosiect gyrraedd y broses o ddatblygu Cytundeb Ariannu gan bod yr Achos Busnes Lawn wedi cael ei gymeradwyo eisoes. Cadarnhawyd bod y cwmnïau wedi eu henwi’n bartion ar y Cytundeb Datblygu a roddwyd gan Gyngor Sir Ddinbych i NWH Ltd.