Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 06/12/2024 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (eitem 9)

PARC BRYN CEGIN, BANGOR - ACHOS BUSNES AMLINELLOL

David Mathews (Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo) a Margaret Peters (Rheolwr Prosiect Tir ac Eiddo) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

1.    Cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer prosiect Parc Bryn Cegin, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a’r DU o’r broses sicrwydd, ac Uchelgais Gogledd Cymru yn ymdrin â’r materion a amlinellir yn yr adroddiad, fel y’u disgrifir yn Adran 7, ac yn argymell i’r Bwrdd Uchelgais fod Achos Busnes Llawn yn cael ei baratoi i’r Bwrdd ei Ystyried.

2.    Derbyn y bydd cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol yn gweithredu fel cymeradwyaeth i’r cais am newid i’r prosiect i leihau cwmpas  prosiect ar gyfer Cam 1 o 3,000 metr sgwâr i 1,856 metr sgwâr o unedau cyflogaeth newydd arfaethedig.

3.    Cytuno ar y broses ddiwygiedig a fydd yn gweld Achos Busnes Llawn yn cael ei gyflwyno ar ôl cwblhau’r Cytundeb Cyd-fenter a chadarnhau cyllid Llywodraeth Cymru cyn dechrau caffael.

4.    Cytuno ar egwyddorion y cynnig Cyd-fenter fel y’u nodir ac yn dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gymeradwyo a ymrwymo i’r cytundeb.

5.    Nodi’r adenillion a ragwelir fel rhan o’r Cytundeb Cyd-fenter ac yn cymeradwyo mewn egwyddor (yn amodol ar gadarnhau’r Achos Busnes Lawn) bod yr incwm a dderbynnir yn cael ei ddyrannu i gronfa wrth gefn i’w defnyddio i ariannu’r Swyddfa Rheoli Portffolio yn y  blynyddoedd i ddod.

6.    Cynnal trafodaeth bellach ar Gam 2 y Prosiect yn dilyn cwblhau Cam 1.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Rhaglen Tir ac Eiddo.

PENDERFYNIAD

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

Ceisio cymeradwyaeth y Bwrdd Uchelgais i Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Parc Bryn Cegin, a’r cais am newid prosiect dilynol.

Dylai’r Bwrdd nodi na fydd angen unrhyw gytundeb arian grant ar gyfer y Prosiect hwn, gan y bydd y Cytundeb Cyd-fenter yn gweithredu fel contract cyfreithiol rhwng Uchelgais Gogledd Cymru a Llywodraeth Cymru. Nid oes cais am gymeradwyaeth ar y cam hwn, ond gwneir hyn pan gyflwynir yr Achos Busnes Llawn i’r Bwrdd yn y man.

TRAFODAETH

Trafodwyd yr adroddiad.