12 AROLYGON CYMUNEDOL O DAN DDEDDF LLYWODRAETH LEOL (DEMOCRATIAETH) (CYMRU) 2013 PDF 205 KB
Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwyo Cynigion Drafft dan adrannau 25 a 31 o Ddeddf Llywodraeth
Leol (Democratiaeth)(Cymru) 2013 er mwyn ymgynghori arnynt.
Cofnod:
Cyflwynodd yr
Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol, y Cynghorydd Llio
Elenid Owen, adroddiad:-
·
yn
nodi y bu i’r Cyngor, ar 7 Mawrth, 2024, gymeradwyo cynnal arolygon cymunedol o
dan adrannau 25 a 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.
·
yn
adrodd yn ôl ar ganlyniad y cyfnod ymgynghori ac ymchwilio cychwynnol ar yr
arolygon cymunedol hynny; ac
·
yn
gofyn i’r Cyngor gymeradwyo Cynigion Drafft ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus
pellach.
PENDERFYNWYD
cymeradwyo’r Cynigion Drafft dan adrannau 25 a 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol
(Democratiaeth)(Cymru) 2013 er mwyn ymgynghori arnynt.