6 PENODI SRO Y CYNLLUN TWF AC AELODAU ARWEINIOL PDF 244 KB
Alwen
Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) i gyflwyno’r Adroddiad.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth
Gweithrediadau yn absenoldeb y Cyfarwyddwr Portffolio.
PENDERFYNWYD
1.
Cytuno i’r egwyddor y
dylid gwahanu rolau’r Uwch Berchennog Cyfrifol a Chyfarwyddwr Portffolio (yn
amodol ar gyngor Adnoddau Dynol) a’u cyflawni gan wahanol unigolion a nodi’r
rhaniad arfaethedig o ddyletswyddau a chyfrifoldebau.
2.
Gofyn am enwebiad gan un
o chwe Phrif Weithredwr yr awdurdodau lleol i weithredu fel Uwch Berchennog
Cyfrifol (SRO) ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru gyda’r bwriad o gadarnhau’r
penodiad hwn yn y cyfarfod nesaf, sydd wedi ei raglennu ar gyfer 4 Ebrill 2025.
3.
Cytuno ar y newidiadau i gyfrifoldebau Aelodau Arweiniol ar draws y
Cynllun Twf.
RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD
Ceisio cymeradwyaeth y Bwrdd Uchelgais Economaidd i
wahanu rôl yr SRO a Chyfarwyddwr Portffolio mewn ymateb i’r gofyniad newydd gan
y llywodraeth.
TRAFODAETH
Eglurwyd bod yr
adroddiad yn cyflwyno addasiadau i strwythur llywodraethiant Cynllun Twf
Gogledd Cymru, yn dilyn arweiniad y Llywodraethau i wahanu rolau’r Cyfarwyddwr
Portffolio a’r Uwch Berchennog Cyfrifol (SRO). Atgoffwyd bod yr holl
gyfrifoldebau hyn wedi cael eu cyflawni gan y Cyfarwyddwr Portffolio presennol
ar hyn o bryd. Cadarnhawyd bod arweiniad y Llywodraethau yn ei gwneud yn
ofynnol i ddau unigolyn gwahanol fod yn cyflawni’r rolau hyn er mwyn cynyddu
atebolrwydd a darparu capasiti arweinyddiaeth ychwanegol.
Gofynnwyd am enwebiad
ffurfiol i un o Brif Weithredwyr yr awdurdodau lleol weithredu fel yr SRO ar
gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru er mwyn gallu cynnal pleidlais ffurfiol ar yr
enwebiad hwnnw yn y cyfarfod nesaf o’r Bwrdd hwn.
Nodwyd bod yr
adroddiad yn manylu ar Rolau penodol yr Aelodau Arweiniol, gan atgoffa bod pump
o’r Arweinwyr yn gyfrifol am un o feysydd rhaglenni’r Cynllun Twf er mwyn
darparu cysylltiad rhwng y Bwrdd Uchelgais a Byrddau’r Rhaglenni. Eglurwyd na
fyddai’r Cadeirydd yn gyfrifol am raglen benodol yn y dyfodol er mwyn sicrhau
eu bod yn canolbwyntio ar faterion strategol cyffredinol, gyda’r Rolau
Arweiniol yn cael eu dosbarthu i’r pum Arweinydd arall. Tynnwyd sylw bod
addasiadau i aelodaeth y Bwrdd yn y flwyddyn ddiwethaf a chynigwyd penodiadau
newydd i Rolau Arweiniol Rhaglenni’r Cynllun Twf fel a ganlyn:
·
Y
Cynghorydd Mark Pritchard - Materion strategol cyflawni'r Cynllun Twf
·
Y
Cynghorydd Charlie McCoubrey – Rhaglen Bwyd-amaeth a Thwristiaeth
·
Y
Cynghorydd Dave Hughes –Rhaglen Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Uwch
·
Y
Cynghorydd Jason McLellan – Rhaglen Tir ac Eiddo
·
Y
Cynghorydd Gary Pritchard – Rhaglen Ynni Carbon Isel
·
Y
Cynghorydd Nia Jeffreys –Y Rhaglen Ddigidol.
Manylwyd nad oes newid i’r Aelod Arweiniol ar gyfer Rhaglenni Bwyd-amaeth a Thwristiaeth, Tir ac Eiddo ac Ynni Carbon isel er mwyn sicrhau parhad yn y gwaith mae’r Aelodau wedi bod yn ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf. Eglurwyd bod y penderfyniad wedi cael ei wneud i gynnig y Rhaglen Ddigidol i Aelod Arweiniol Cyngor Gwynedd oherwydd y diffygion ac anawsterau cyswllt digidol sydd yn yr ardal honno. Tynnwyd sylw y golyga hyn bod y Rhaglen Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Uwch wedi cael ei nodi ar gyfer yr Aelod Arweiniol Cyngor Sir y Fflint. Ymddiheurwyd am y diffyg cyfathrebu i egluro’r rhesymeg wrth lunio’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6