Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 14/02/2025 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (eitem 7)

7 CYLLIDEB REFENIW A CHYFALAF 2025/26 pdf eicon PDF 804 KB

Dewi Morgan (Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletya ac Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh (Pennaeth Cyllid Cynorthwyol yr Awdurdod Lletya) i gyflwyno’r Adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.     Cymeradwyo’r Gyllideb Refeniw 2025/26.

2.     Cymeradwyo’r cyfraniadau ariannu sy’n cynnwys cyfraniadau partneriaid, cyfraniadau atodol awdurdodau lleol a chyfraniadau llog partneriaid.

3.     Cymeradwyo’r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Cynllun Twf.

4.     Cymeradwyo trosglwyddo’r llog a dderbyniwyd ar falansau grant Bargen Twf Gogledd Cymru yn 2024/25 a 2025/26 i gronfa wrth gefn penodol i ariannu gofynion ychwanegol y llywodraeth, cadw capasiti’r Swyddfa Rheoli Portffolio am ddwy flynedd ychwanegol yn ogystal â chostau datblygu prosiectau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Cyllid a Phennaeth Cyllid Cynorthwyol yr Awdurdod Lletya.

 

PENDERFYNWYD

 

1.     Cymeradwyo’r Gyllideb Refeniw 2025/26.

2.     Cymeradwyo’r cyfraniadau ariannu sy’n cynnwys cyfraniadau partneriaid, cyfraniadau atodol awdurdodau lleol a chyfraniadau llog partneriaid.

3.     Cymeradwyo’r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Cynllun Twf.

4.     Cymeradwyo trosglwyddo’r llog a dderbyniwyd ar falansau grant Bargen Twf Gogledd Cymru yn 2024/25 a 2025/26 i gronfa wrth gefn penodol i ariannu gofynion ychwanegol y llywodraeth, cadw capasiti’r Swyddfa Rheoli Portffolio am ddwy flynedd ychwanegol yn ogystal â chostau datblygu prosiectau.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Er mwyn gweithredu’n effeithiol o fewn y cyllid sydd ar gael, mae angen i gyllideb flynyddol gael ei chymeradwyo ar gyfer y Bwrdd Uchelgais.

 

Mae Atodiad 1 yn gosod y gyllideb arfaethedig yn ôl pennawd gwariant a’r ffrydiau ariannu cyfatebol ar gyfer y flwyddyn.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod prif gyllideb y Swyddfa Rheoli Portffolio yn ariannu 22.75 o swyddi, gan nodi bod dwy o’r swyddi hynny yn swyddi ychwanegol penodol i brosiectau Digidol ac Ynni Lleol Blaengar. Nodwyd hefyd bod cyllideb wedi cael eu gosod ar gyfer dau gyfarwyddwr anweithredol a gweithiwr proffesiynol rheoli portffolio er mwyn adlewyrchu gofynion y ddwy lywodraeth. Yn debyg, eglurwyd cyllidebau, costau a chyfraniadau llog ar gyfer materion Gwasanaethau Cefnogol, Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd, Prosiectau a Throsglwyddiadau i gronfeydd.

 

Tynnwyd sylw bod cyfraniadau ariannol gan bartneriaid wedi codi 1.5% er mwyn adlewyrchu chwyddiant alldro 2024/25, lwfans ar gyfer newidiadau yn nhrothwy a chanran yswiriant gwladol ac amcan chwyddiant cyflogau 2025/26. Fodd bynnag, cadarnhawyd bod cyfraniadau atodol gan yr Awdurdodau Lleol wedi parhau i fod yn £40,000 yr un.

 

Tywyswyd yr aelodau drwy rhai o gyfraniadau ariannol gan gadarnhau:

 

·       Bod cyfanswm y Grant Cynllun Twf o £1.35miliwn wedi cael ei neilltuo ar gyfer gwariant refeniw.

·       Neilltuwyd £116,000 o brosiectau Digidol ac Ynni Lleol Blaengar i ariannu dwy swydd benodol.

·       Cyfalafwyd £60,000 ar gostau staff wrth iddynt wneud gwaith penodol ar brosiectau.

·       Ariannir swyddi llywodraeth ychwanegol a chostau datblygu prosiectau drwy £412,000 o’r Gronfa Llog.

·       Clustnodwyd oddeutu £61,000 o’r Gronfa wrth gefn, gan sicrhau bod £150,000 yn parhau yn y gronfa honno.

 

Darparwyd crynodeb o’r gyllideb ar gyfer 2025/26 yn ogystal â chyllidebau drafft ar gyfer blynyddoedd ariannol 2026/27 a 2027/28. Eglurwyd bod y swyddi llywodraeth ychwanegol, estyniad ar gytundebau staff hyd Fawrth 2028 a rhai o gostau datblygu’r prosiectau yn cael eu hariannu gan y llog a fydd yn cael ei dderbyn ar falansau’r Cynllun Twf ym mlynyddoedd ariannol 2024/25 ac 2025/26. Amcangyfrifwyd bydd cyfanswm costau dros y tair blynedd ariannol yma yn £2.7miliwn. Cadarnhawyd bydd y £3.6miliwn o log a dderbyniwyd hyd at 2023/24 yn parhau i gael ei ddefnyddio i leihau unrhyw gostau benthyca yn y dyfodol.

 

Tynnwyd sylw at y gyllideb cyfalaf gan nodi y bydd yn cael ei adolygu yn ystod y flwyddyn wrth i’r achosion busnes gael eu cymeradwyo. Rhannwyd proffil am y cyfnod 2021/22 i 2034/35 yn ogystal â’r 2.15% o’r gyllideb sydd wedi ei neilltuo i ariannu’r gyllideb refeniw dros yr un cyfnod.

 

Diolchwyd i holl bartneriaid am eu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7