Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 14/02/2025 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (eitem 8)

8 CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISGIAU CHWARTER 3 pdf eicon PDF 242 KB

Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) i gyflwyno’r Adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.     Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i diweddaru.

2.     Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

3.     Gofyn i’r Swyddfa Rheoli Portffolio am adroddiad pellach ar brosiectau y rhagwelir na fydd yn bosib eu cyflawni o fewn eu hamserlenni arfaethedig, yn y cyfarfod nesaf y Bwrdd sydd wedi ei raglennu ar gyfer 4 Ebrill 2025.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Gweithrediadau yn absenoldeb y Cyfarwyddwr Portffolio.

 

PENDERFYNWYD

 

1.     Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i diweddaru.

2.     Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

3.     Gofyn i’r Swyddfa Rheoli Portffolio am adroddiad pellach ar brosiectau y rhagwelir na fydd yn bosib eu cyflawni o fewn eu hamserlenni arfaethedig, yn y cyfarfod nesaf y Bwrdd sydd wedi ei raglennu ar gyfer 4 Ebrill 2025.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae adrodd chwarterol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf. Yn dilyn ystyriaeth gan y Bwrdd Uchelgais, caiff yr adroddiadau eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

TRAFODAETH

 

Adroddwyd ar nifer o ddigwyddiadau a fu’n uchafbwyntiau dros y misoedd diwethaf megis cymeradwyo ceisiadau am newid ac Achosion Busnes Amlinellol, cynnydd da mewn adeiladu ac adnewyddu safleoedd, penodi ymgynghorwyr Umi ac WCVA i ddatblygu prosiectau, derbyn ymatebion gwerthfawr i ymgynghoriadau a chychwyn ar waith ymgysylltu ar gyfer prosiectau newydd.

 

Tynnwyd sylw bod chwe phrosiect yn adrodd yn goch ar hyn o bryd gan gynnwys:

 

·       Cysylltu'r Ychydig % Olaf

·       NEW – H2

·       Trawsfynydd

·       Porth Caergybi

·       Stiwdio Kinmel

·       Hwb Economi Wledig Glynllifon

 

Cadarnhawyd bod y Gofrestr Risg yn parhau yn gyson i’r hyn a welwyd yn ail chwarter 2024/25. Ymhelaethwyd bod risg gweddilliol ar fuddsoddiad sector gyhoeddus wedi gostwng o ganlyniad i Achosion Busnes Llawn dan arweiniad noddwyr y sector gyhoeddus, gael eu cymeradwyo gan y Bwrdd hwn yn ddiweddar.

 

Gofynnwyd am adroddiad yn y cyfarfod nesaf ar ddiweddariad pellach ar y prosiectau hynny nad yw swyddogion yn credu bod modd eu cyflawni  o fewn eu hamserlenni arfaethedig.

 

Diolchwyd i bartneriaid ac asiantaethau allanol am eu cydweithrediaeth er mwyn ymdrechu i ganfod ffyrdd o  ddatblygu’r prosiectau hyn, yn enwedig ar brosiectau Porth Caergybi a Hwb Hydrogen Caergybi.

 

Heriwyd statws perfformiad ‘Cyfathrebu ac Ymgysylltu’ o fewn y Gofrestr Risg, gan dynnu sylw ei fod yn perfformio’n wyrdd ar hyn o bryd. Manylwyd ei fod yn cyfeirio at ddatganiadau i’r wasg, cyfryngau cymdeithasol a’r wefan ac ystyriwyd beth yw’r cyfathrebu gwirioneddol wrth ystyried os yw trigolion Gogledd Cymru yn ymwybodol o bwysigrwydd a gwaith y Bwrdd Uchelgais. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd y Pennaeth Gweithrediadau bod gwaith ymgysylltu a chyfathrebu trylwyr yn cael ei gyflawni megis drwy ddigwyddiadau, podlediadau a’r cyfryngau cymdeithasol gan nodi bod hyn yn cael ei gydbwyso yn ofalus gyda gwaith y Bwrdd. Cydnabuwyd bod capasiti ac argaeledd yn her wrth ystyried cyflawni mwy o ddyletswyddau yn y maes yma ac felly bod partneriaid hefyd yn cydweithio i hyrwyddo gwaith y Bwrdd. Teimlwyd bod dealltwriaeth y cyhoedd am waith y Bwrdd wedi gwella yn y blynyddoedd diwethaf gan bwysleisio y bydd yn parhau i wella wrth gyflawni mwy o brosiectau yn y dyfodol.