CYDNERTH - ACHOS BUSNES LAWN
Hedd
Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) a Dafydd Rogers (Rheolwr Prosiect Ynni
Carbon Isel) i gyflwyno’r Adroddiad.
Penderfyniad:
1.
Cymeradwyo’r Achos Busnes Terfynol ar
gyfer prosiect Cydnerth sy’n ddarostyngedig i Fenter Môn Morlais Ltd yn mynd
i’r afael â’r materion sydd angen gweithredu arnynt a nodir yn yr adroddiad.
2.
Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn
ymgynghoriad â’r Cadeirydd, Is-gadeirydd, Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro
i gytuno ac ymrwymo i gytundeb cyllido gyda Menter Môn Morlais Ltd er mwyn
cyflawni’r prosiect.
3.
Nodi bod y model cyllido arfaethedig ar
gyfer y prosiect yn fenthyciad masnachol 100% ac yn cymeradwyo bod y llog o’r
benthyciad, unwaith y bydd cost taliadau benthyca ar gyfer yr elfen benthyciad
wedi’i dalu, yn cael ei ddyrannu i gronfa wrth gefn i’w defnyddio i gyllido’r
Swyddfa Rheoli Portffolio yn y blynyddoedd i ddod.
4.
Gofyn am adroddiad diweddariad ar gynnydd
y prosiect ymhen 6 mis gyda manylion pellach am ffioedd, cyllidebau ac
amserlenni.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan y Pennaeth Gweithrediadau a’r Rheolwr Prosiect Ynni a Sero Net
(Hydrogen).
PENDERFYNIAD
1.
Cymeradwyo’r
Achos Busnes Terfynol ar gyfer prosiect Cydnerth sy’n ddarostyngedig i Fenter
Môn Morlais Ltd yn mynd i’r afael â’r materion sydd angen gweithredu arnynt a
nodir yn yr adroddiad.
2.
Awdurdodi’r
Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, Is-gadeirydd, Swyddog
Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gytuno ac ymrwymo i gytundeb cyllido gyda
Menter Môn Morlais Ltd er mwyn cyflawni’r prosiect.
3.
Nodi
bod y model cyllido arfaethedig ar gyfer y prosiect yn fenthyciad masnachol
100% ac yn cymeradwyo bod y llog o’r benthyciad, unwaith y bydd cost taliadau
benthyca ar gyfer yr elfen benthyciad wedi’i dalu, yn cael ei ddyrannu i gronfa
wrth gefn i’w defnyddio i gyllido’r Swyddfa Rheoli Portffolio yn y blynyddoedd
i ddod.
4.
Gofyn am adroddiad diweddariad ar gynnydd y prosiect
ymhen 6 mis gyda manylion pellach am ffioedd, cyllidebau ac amserlenni.
RHESYMAU
DROS Y PENDERFYNIAD
Ceisio
cymeradwyaeth y Bwrdd
Uchelgais i Achos Busnes Terfynol ar gyfer y prosiect Cydnerth.
TRAFODAETH
Trafodwyd
yr adroddiad.